Seren Strictly Come Dancing wedi ei arestio ar amheuaeth o dreisio
Mae un o sêr Strictly Come Dancing, sydd heb ei enwi, wedi ei arestio ar amheuaeth o dreisio.
Dywedodd Heddlu Swydd Hertford fod y dyn a gafodd ei arestio fis diwethaf wedi ei ryddhau ar fechnïaeth dan ymchwiliad.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC na fyddai’n “addas cynnig sylw ar ymchwiliad gan yr heddlu sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd”.
Yn ôl The Sun fe ddigwyddodd y drosedd honedig ar ôl digwyddiad oedd wedi ei threfnu gan y BBC.
Dywedodd y papur newydd nad oedd y ddynes yn gystadleuydd nac yn ddawnswraig broffesiynol ar y sioe, ond ei bod wedi cwrdd â'r dyn oherwydd ei rôl yn y gystadleuaeth.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Swydd Hertford: "Fe gafodd dyn ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu dan ymchwiliad ar ôl cael ei arestio yn Llundain ddydd Llun 13 Hydref ar amheuaeth o dreisio.
"Yn y cyfamser, bydd ymholiadau gan swyddogion o dîm Diogelu'r Cyhoedd Heddlu Swydd Hertford yn parhau.
"O ystyried natur yr honiadau, byddai'n amhriodol cynnig unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."