Casnewydd yn penodi cyn enillydd Uwch Gynghrair Lloegr yn rheolwr newydd

Christian Fuchs

Mae cyn enillydd Uwch Gynghrair Lloegr, Christian Fuchs wedi ei benodi'n rheolwr newydd ar Glwb Pêl-droed Casnewydd.

Enillodd Fuchs, sydd yn 39 oed, Uwch Gynghrair Lloegr gyda Leicester City yn 2016.

Cyhoeddodd Casnewydd ddydd Iau bod cyn-gapten Awstria wedi arwyddo "cytundeb hirdymor" gyda'r clwb.

Mae'n ymuno ar ôl cyfnod o ddwy flynedd fel rheolwr cynorthwyol Charlotte FC yn America.

Mae Casnewydd ar waelod Adran Dau wedi iddynt ennill tair yn unig o'u 16 gêm y tymor hwn.  

Daw penodiad Fuchs wedi i David Hughes gael ei ddiswyddo fel rheolwr bum diwrnod yn ôl.

'Uchelgeisiol'

Dywedodd cadeirydd y clwb, Huw Jenkins bod penodiad Christian Fuchs yn galluogi i'r clwb i fod yn "optimistaidd."

"Rydym yn gweld Christian fel dyn sydd yn gallu arwain ein clwb yn y cyfeiriad cywir," meddai.

"Dwi'n credu ei fod yn rhannu ein huchelgeisiau yma yng Nghasnewydd.

"Dwi wir yn meddwl ein bod ni'n gallu edrych ymlaen a bod yn optimistaidd.

"Mae gan Christian ei uchelgeisiau ei hun, ac un diwrnod mae eisiau rheoli yn Uwch Gynghrair Lloegr."

Mae disgwyl i Fuchs ddewis ei reolwr cynorthwyol a siarad gyda'r garfan cyn ei gêm gyntaf fel rheolwr yn erbyn Oldham ddydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.