Rygbi: Pum newid i dîm Cymru i wynebu Seland Newydd
Mae Steve Tandy wedi gwneud pum newid i dîm Cymru i wynebu Seland Newydd ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Japan yr wythnos diwethaf.
Enillodd Cymru 24-23 gyda'r maswr Jarrod Evans yn cicio cic gosb i ennill y gêm i'r crysau cochion.
Seland Newydd fydd yn teithio i Stadiwm Principality ddydd Sadwrn wrth i Gymru chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn y crysau duon ers 1953.
Un o'r pum newid i dîm Cymru yw Harri Deaves yn safle y blaenasgellwr.
Dyma fydd cap gyntaf y dyn 24 oed sydd yn chwarae i ranbarth y Gweilch.
Bydd Alex Mann ac Aaron Wainwright yn ymuno gydag ef yn y rheng ôl.
Y capten Dewi Lake fydd yn dechrau yn safle’r bachwr unwaith eto, gyda Rhys Carré fel prop pen rhydd a Keiron Assiratti yn brop pen tynn.
Dau newid sydd ymhlith yr olwyr, sef Joe Hawkins fel rhif 12 – ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2023 - a Tom Rogers ar yr asgell yw’r newid arall.
Ar y fainc mae'r bachwr Brodie Coghlan, sydd yn gallu ennill ei gap cyntaf dros Gymru. Hefyd mae chwaraewyr profiadol gan gynnwys Nick Tompkins a Gareth Thomas yn eilyddion.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1991439586921246742
'Gwella perfformiad'
Er i Gymru ennill yn y Stadiwm Principality am y tro cyntaf ers dwy flynedd gyda'r fuddugoliaeth yn erbyn Japan, mae Steve Tandy eisiau gweld perfformiad gwell ddydd Sadwrn yma.
“Yn amlwg ry’n ni eisiau gwella’n perfformiad o’r penwythnos diwethaf yn erbyn Japan," meddai.
"Fe wnaethon ni greu cyfleoedd eithriadol yn erbyn yr Ariannin. Roedden ni’n siomedig na lwyddon ni i adeiladu ar yr agweddau cadarnhaol hynny’n ddigonol y penwythnos diwethaf.
"Roedd hi’n braf sicrhau’r fuddugoliaeth wrth gwrs, ond ry’n ni eisiau gwella’n perfformiad yn sylweddol yn erbyn un o dimau gorau’r byd ddydd Sadwrn."
Dyma fydd trydedd gêm Cymru yng Nghyfres yr Hydref, cyn wynebu De Affrica wythnos nesaf.
Hon fydd gêm olaf Seland Newydd yn y gyfres, ac maen nhw wedi ennill yn erbyn Iwerddon a'r Alban.
Colli 33-19 yn erbyn Lloegr oedd canlyniad eu gêm ddiwethaf.
Mae prif hyfforddwr y crysau duon, Scott Robertson wedi gwneud sawl newid i wynebu Cymru.
Scott Barrett, Simon Parker a Will Jordan yw'r unig dri chwaraewr yn y 15 sy'n cychwyn oedd wedi chwarae yn erbyn Lloegr.
