Rhieni plentyn fu farw ar ôl tagu ar fwyd mewn meithrinfa yn ennill iawndal

Zoe Steeper and Lewis Steeper

Mae rheini plentyn a fu farw ar ôl iddo dagu ar fwyd mewn meithrinfa wedi ennill iawndal.

Roedd Oliver Steeper yn naw mis oed pan gafodd bryd bwyd pasta bolognese wedi ei dorri i fyny gan staff yn meithrinfa Jelly Beans Day Nursery yng Nghaint ar 23 Medi 2021.

Dywedodd ei rieni nad oedden nhw wedi dechrau rhoi bwyd caled iddo eto ac nad oedd yn barod amdano.

Tagodd ar y bwyd gan achosi anaf i’w ymennydd o ganlyniad i ddiffyg ocsigen, a bu farw yn yr ysbyty chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Mae’r feithrinfa bellach wedi talu iawndal chwe ffigwr iddyn nhw.

Fe wnaeth Jelly Beans Day Nursery ddod i gytundeb ariannol heb gyfaddef i unrhyw atebolrwydd am yr hyn ddigwyddodd.

Wrth siarad ag asiantaeth newyddion PA dywedodd Mr a Mrs Steeper nad oedd eu hymgyrch “am yr arian” ond yn hytrach i “sicrhau atebolrwydd”.

Maen nhw wedi sefydlu elusen sy’n darparu dyfeisiau i atal tagu mewn meithrinfeydd ar draws y DU.

Mewn cwest y llynedd, clywodd y crwner Katrina Hepburn dystiolaeth bod “lefel y cymorth cyntaf a ddarparwyd gan staff y feithrinfa yn wael ar y cyfan”.

Ysgrifennodd at y Llywodraeth gan ddweud y gallai’r safon gyffredinol ar y pryd o gael un person oedd wedi ei hyfforddi i ddarparu cyntaf fesul meithrinfa “beri risg i fywyd yn y dyfodol”.

Wrth ymateb, cyflwynodd gweinidogion newidiadau a ddaeth i rym ym mis Medi, sy’n cynnwys sicrhau bod aelod o staff yn yr ystafell bob amser sydd gyda thystysgrif cymorth cyntaf addas i drin plant tra eu bod yn bwyta.

Dywedodd Mrs Steeper ei bod yn “swrrealaidd” ac yn “chwerwfelys” gweld y diwygiadau “oherwydd bod yn rhaid i Oli farw”.

“Rwy’n teimlo pe na bai Oli wedi marw, fe fyddai wedi bod yn blentyn arall,” meddai.

“Rydym yn clywed straeon am blant sy’n dal i farw o dagu mewn lleoliadau gofal plant felly rwy’n dal i feddwl bod ffordd bell i fynd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.