Bellamy: Perfformiad 'mor agos i berffaith' ag y gallai fod

Craig Bellamy wedi buddugoliaeth Cymru

Mae Craig Bellamy wedi dweud bod perfformiad Cymru yn erbyn Gogledd Macedonia "mor agos i berffaith" ag y gallai fod ar ôl buddugoliaeth o 7 gôl i 1 nos Fawrth.

Wrth siarad gyda Sgorio wedi'r gêm nos Fawrth dywedodd fod y tîm wedi bod yn "arbennig", ar ôl sgorio saith gôl mewn gêm am y tro cyntaf ers 1978.

Roedd y canlyniad yn annisgwyl i lawer o'r cefnogwyr gyda Gogledd Macedonia ddim wedi colli'r un o'r saith gêm flaenorol yn y rowndiau rhagbrofol.

Mae'r canlyniad yn cadw gobeithion Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn fyw, gyda'r tîm yn sicrhau gêm gartref yn rowndiau cyn-derfynol y gemau ail-gyfle i gyrraedd y gystadleuaeth.

Dywedodd seren y noson, Harry Wilson a sgoriodd dair o'r goliau bod y perfformiad yn yr ail hanner yn "anhygoel" a bod y noson yn un o'r rhai gorau yn ei yrfa hyd yn hyn.

'Y tîm yn haeddu fo' 

Yn ôl Cledwyn Ashford, sydd yn sgowtio chwaraewyr mae angen cydnabod cyfraniad y rheolwr.

"O'n i'm yn credu'r peth. Clod anferth i Craig Bellamy a'i ddewrder yn dewis y tîm ddaru fo ac mi ddaru'r hogia chwara mor dda."

"Odd bob un ohonyn nhw yn anhygoel o dda ac yn llawn, llawn haeddu. Ond breuddwyd go iawn. Dwi di deffro bora ma, ydy o yn iawn neu beidio de," meddai wrth Radio Cymru. 

Dywedodd fod y fuddugoliaeth yn un gan y tîm cyfan. 

"Neithiwr ddaru bopeth ddigwydd mor dda. Pobl fel Liam Cullen yn dod o oed neithiwr. 

"O'n i yn meddwl bod o di cael gêm arbennig a Dasilva, o'n i yn meddwl bod o yn wych. 

"Ond oedd pawb, bob un ohonyn nhw wedi cael gêm aruthrol o dda. A dyna be oedd o dwi'n meddwl y tîm, y tîm oedd yn haeddu fo neithiwr..."

Dywedoddd cyn ymosodwr Cymru, Iwan Roberts, bod cysondeb gan y chwaraewyr wedi bod yn broblem yn y gorffennol.

"Odd Craig Bellamy yn pwysleisio cyn y gêm does 'na'm pwysau ar y chwaraewyr ond mi oedd yna bwysau ar y chwaraewyr i fynd allan i'r gêm. 

"Mae cysondeb wedi bod yn broblem yn y perfformiadau. Da ni di gweld amball i gyfnod o ryw chwarter awr, ugain munud gan y chwaraewyr mewn ambell i gêm ond da ni heb ei weld o am awr a hanner fel welon ni neithiwr," meddai wrth Radio Cymru. 

Gwrthwynebwyr

Ddydd Iau mi fydd Cymru yn cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle. Fe fyddan nhw unai yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon, Albania, Kosovo neu Bosnia adref yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.

Yn ôl Cledwyn Ashford mi fydd yna gystadlu brwd am safleoedd o fewn y tîm yn y gemau nesaf wedi i Ethan Ampadu a Jordan James fethu'r gêm ar ôl cael cardiau melyn.

"Dwi di bwcio yn stafell yn barod... gennai dipyn o ffydd."

Llun: Asiantaeth Huw Evans 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.