Dyfodol i'r Iaith yn lansio cystadleuaeth er cof am Leah Owen

Leah Owen / Iolo Penri

Mae mudiad iaith yn lansio cystadleuaeth newydd i bobl ifanc er cof am Leah Owen.

Y bwriad medd Dyfodol i’r Iaith yw cofio am y cyfraniad mawr a wnaeth at ddiwylliant Cymru.

Roedd Leah Owen yn gantores, arweinydd ac yn hyfforddwr canu. Roedd hefyd yn artist recordio a chyfansoddwr.

Fe fuodd hi farw yn 70 oed ym mis Ionawr 2024.

Dywedodd ei gŵr Eifion Lloyd Jones sydd hefyd yn Is-Gadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

“Bu Leah’n weithredol dros y Gymraeg o ddyddiau cynnar ei hymgyrchu a’i chanu trwy flynyddoedd y cyfansoddi a hyfforddi ei chorau a channoedd o bobl ifanc.”

Dwy gystadleuaeth fydd yn cael eu lansio gydag un ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd ym mlwyddyn 10-11 a’r llall i’r rhai yn y chweched dosbarth neu i fyfyrwyr yng Ngholeg Addysg Bellach hyd at 19 oed.

Creu sgwrs neu gyflwyniad fideo rhwng 3 a 5 munud ar y testun: “Ble ydw i’n defnyddio’r Gymraeg, a ble arall hoffwn i allu defnyddio’r Gymraeg?”yw’r her i’r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11. 

Y testun ar gyfer y disgyblion hŷn yw- “Beth ydi’r cyfleoedd a’r rhwystrau i mi ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol neu goleg ac yn fy mywyd yn gyffredinol. Sut y gellir gwella’r cyfleoedd hynny?”

Ychwanegodd wyres Leah Owen, yr actores ifanc o ‘Rownd a Rownd’ Gwenno Llwyd Beech,

“Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd nifer helaeth o ddisgyblion a myfyrwyr Cymru yn cystadlu yn y ddwy gystadleuaeth."

Bydd gwobr ariannol i’r rhai sydd yn dod i’r brig yn y ddau gategori ac fe fyddant yn cael sylw ar y cyfryngau Cymraeg. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.