Rhybudd melyn am eira a rhew i'r de orllewin
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew yn ne orllewin Cymru ar gyfer prynhawn dydd Mercher a dydd Iau.
Daw’r rhybudd i rym rhwng 12 o’r gloch brynhawn dydd Mercher a 23.59 nos Iau.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd fe allai’r tywydd achosi rhywfaint o drafferthion i bobl.
Mae’r rhybudd yn berthnasol ar gyfer Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro ag Abertawe.
Mae’n debygol y gallai’r eira ddisgyn yn ysgafn mewn rhai ardaloedd ond mae’n bosib y bydd rhwng 2-5cm o eira mewn llefydd lle mae’r cawodydd yn fwy cyson.
Fe allai hyd at 10cm o eira ddisgyn mewn mannau ynysig yn enwedig ardaloedd gyda bryniau fel Sir Benfro a gorllewin Caerfyrddin meddai’r Swyddfa Dywydd.
Bydd gwynt cryf a chenllysg hefyd gyda rhai o’r cawodydd. Mae posibilrwydd hefyd o rew.
Mae’n bosib y bydd amodau gyrru yn beryglus ac y bydd oedi ar y ffyrdd.
Llun: Lynwen Williams