Rod Thomas, cyn-chwaraewr Cymru, wedi marw'n 78 oed

ITV Cymru
rod thomas

Mae cyn-chwaraewr pêl-droed Cymru, Rod Thomas, wedi marw yn 78 oed.

Fe enillodd 50 o gapiau dros Gymru rhwng 1967-1977, gan chwarae hefyd i glybiau yn cynnwys Caerdydd, Casnewydd, a'r Barri.

Symudodd o glwb Dinas Caerloyw i Swindon, lle’r oedd yn rhan o’r tim wnaeth ennill Cwpan y Gynghrair yn 1969.

Mewn teyrnged, fe ddywedodd clwb pêl-droed Swindon ei fod yn “chwaraewr talentog ac ymroddedig”.

Ychwanegodd y clwb y bydd Rod Thomas yn cael ei gofio am fod yn "chwaraewr pêl-droed rhagorol" ac yn "aelod gwerthfawr" o’r gymuned bêl-droed.

'Chwaraewr dibynadwy'

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wedi ei ddisgrifio fel chwaraewr “dibynadwy.”

Roedd hefyd wedi cynrychioli tîm Derby County mewn 118 gêm, ac mewn teyrnged, fe dywedodd y clwb eu bod yn estyn eu “cydymdeimladau dwysaf” i’w ffrindiau a’i deulu.

Mae cefnogwyr wedi bod yn rhannu atgofion ohono ar-lein, gydag un yn ei gofio fel y "landlord" yn nhafarn y Fostons Ash, yn Stroud yn Sir Gaerloyw.

“Rydw i’n cofio bod yn rhy sâl i fynd at y teulu i’r dafarn ar un achlysur, ond fe anfonodd [Rod Thomas] beint i fy nhŷ. Am ddyn bonheddig yn wir."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.