Rhybudd i deithwyr trên ar gyfer gêm Cymru ar ôl llifogydd
Mae cefnogwyr sy’n mynd i weld gêm Cymru yn erbyn Gogledd Macedonia yng Nghaerdydd nos Fawrth wedi cael rhybudd i wirio eu trefniadau cyn teithio.
Daw wedi rhai dyddiau o oedi ar y rheilffordd rhwng Hwlffordd a Casnewydd wedi llifogydd Storm Claudia ddydd Gwener a Sadwrn.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddai y rheilffordd yn ail agor nos Fawrth ond y dylai cefnogwyr wirio am nad oedd y rhwydwaith wedi dychwelyd i'r amserlen arferol.
"Nid yw llawer o'n trenau yn eu lleoliadau arferol," medden nhw.
"Mae ein timau'n gweithio i ail-leoli trenau ar draws ein rhwydwaith fel y gall gwasanaethau ddechrau dychwelyd i'r amserlen arferol."
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod disgwyl i’w gwasanaethau fod yn brysur tu hwnt cyn ac ar ôl y gêm.
Mae llai o wasanaethau trenau ar gael rhwng Pontypridd a Chaerdydd ac mae gwaith cynnal a chadw rhwng Caerdydd a Bae Caerdydd.
Fe fydd rhai gwasanaethau yn cael ei hail-amseru a bydd trenau ychwanegol i gefnogwyr i fynd adref ar ôl y gêm, meddai'r gwasanaeth.
Mae bysiau gwennol Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Bws Caerdydd yn teithio rhwng canol y ddinas a Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae Trafnidiaeth Cymnru yn cynghori pobl i brynu tocyn cyn teithio er mwyn hwyluso’r daith.
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn rhybyddio y bydd unrhyw un dan ddylanwad alcohol neu sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol yn cael eu hatal rhag teithio.
