Dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn o Landysul
Mae’r heddlu fu’n chwilio am ddyn o Landysul, Ceredigion wedi dod o hyd i gorff, medden nhw.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn chwilio am Gareth Perkins, 36, o’r dref yn Nyffryn Teifi.
Fe ddywedon nhw eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff, sydd heb eto ei adnabod yn ffurfiol, yn Rheola, Castell-nedd Port Talbot.
Mae teulu Gareth Perkins wedi cael gwybod, medden nhw.

