Ymchwil newydd i warchod ‘cynefin unigryw’ gwely’r môr yn Sir Benfro
Mae gwaith ymchwil newydd sydd yn edrych ar wely'r môr yn Sir Benfro wedi taflu goleuni newydd ar sut y gellir diogelu cynefinoedd bregus yn well ar gyfer y dyfodol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyfrannu at yr ymchwil sy’n datgelu “natur unigryw ac ecolegol bwysig” gwelyau maerl yn Aberdaugleddau.
Math o algâu coch yw maerl sy’n tyfu’n araf ac yn ffurfio strwythurau cymhleth o dan y dŵr.
Yn ôl gwyddonwyr, mae’r cynefinoedd hyn yn chwarae rhan hanfodol mewn ecosystemau morol.
Maent yn darparu “cysgod i ystod eang o rywogaethau ac yn gweithredu fel storfeydd sylweddol o garbon glas - gan helpu i liniaru newid hinsawdd trwy ddal a storio carbon deuocsid”.
Dan arweiniad Prifysgol Caerwysg mae CNC wedi cydweithio i ddadansoddi samplau maerl o Sir Benfro i Gernyw.
Mae awduron yr ymchwil yn gobeithio y gallai defnyddio'r data ar amrywiaeth genetig nodi'r poblogaethau hynny sy’n wynebu'r perygl mwyaf yn sgil newid amgylcheddol a gweithgareddau dynol.
Daeth yr ymchwil i’r casgliad fod gwely Aberdaugleddau yn wahanol yn enetig i boblogaethau eraill, gan dynnu sylw at bwysigrwydd mesurau cadwraeth i’r safle.
Diogelu ecosystemau
Dywedodd Uwch Swyddog Asesu Amgylcheddol Morol CNC, Dr Frances Ratcliffe: "Mae'r ymchwil hwn yn tynnu sylw at natur unigryw gwely maerl Aberdaugleddau, gan ddangos ei fod yn hynod amrywiol yn enetig ac yn wahanol i boblogaethau eraill yn y rhanbarth ehangach.
"Yn anffodus, mae'r gwely mewn cyflwr diraddiedig ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio y bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio ymdrechion yn y dyfodol i ddiogelu'r ecosystemau hanfodol hyn ar gyfer cenedlaethau i ddod."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain prosiect ehangach ar hyn o bryd sy'n canolbwyntio ar gynefinoedd benthig - yr ecosystemau a geir ar neu gerllaw gwely'r môr.
Nod y prosiect yw gwella dealltwriaeth o fioamrywiaeth forol a llywio strategaethau cadwraeth i helpu i amddiffyn yr amgylcheddau tanddwr bregus hyn.
Mae'r gwaith hwn yn cynnwys penwaig yn Aberdaugleddau, sbyngau yn Afon Menai a riff marchfisglod modiolus oddi ar ogledd Pen Llŷn.
Llun: Francis Bunker
