Y gantores fyd-enwog Katy Perry i ganu yng Nghaerdydd

Katy Perry

Fe fydd y gantores fyd-enwog Katy Perry yn perfformio mewn cyngerdd yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf - un o ddau gyngerdd yn unig iddi berfformio ym Mhrydain yn ystod y flwyddyn.

Yn enwog am ei chaneuon poblogaidd sydd yn cynnwys 'Roar', 'Firework' a 'California Gurls', bydd Katy yn canu yng Nghastell Caerdydd ar ddydd Mawrth, 30 Mehefin.

Wrth siarad cyn ei hymweliad â Chymru, dywedodd Katy: “Fedra i ddim aros i’ch gweld chi ac fe gawn ni barti na fyddwch chi byth yn ei anghofio. Bydd yn epig.”

Ers ei record gyntaf  'One of the Boys' ar Capitol Records yn 2008, mae hi bellach wedi gwerthu dros 70 miliwn albwm yn fyd-eang, a 143 miliwn o draciau unigol.

Mae hi'n un o 12 artist yn unig sydd wedi gwerthu dros 100 miliwn o senglau unigol yn ei gyrfa.

Dechreuodd ganu gospel pan yn ifanc, gan ryddhau ei halbwm gyntaf yn 16 oed o dan ei henw genedigol 'Katy Hudson'.

Symudodd i fyw i Los Angeles yn 17 oed, gan droi ei sylw at gerddoriaeth boblogaidd.

Ei halbwm ' Teenage Dream' yw'r unig albwm gan artist benywaidd mewn hanes sydd wedi creu pum cân aeth i rif un ar frig y siartiau yn America. 

Bydd Katy Perry yn ymuno ag artistiaid eraill gan gynnwys The Streets, McFLY, MIKA, Garbage & Skunk Anansie, Billy Ocean, Pete Tong, Ethel Cain, a David Gray wrth berfformio yng Nghastell Caerdydd yn ystod 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.