Casnewydd wedi diswyddo eu rheolwr David Hughes
Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi diswyddo eu rheolwr David Hughes, ar ôl chwe mis wrth y llyw.
Mae'r Cymro 47 oed yn gadael, gyda Chasnewydd ar waelod yr ail adran, wedi ennill tair yn unig o'u 16 gêm y tymor hwn.
Ddydd Sadwrn, collodd Casnewydd yn erbyn Amwythig sydd hefyd yn ngwaelodion y tabl.
Yn fuan wedi'r canlyniad hwnnw, cyhoeddodd y clwb fod eu rheolwr yn gadael, yn ogystal â'i gynorthwy-ydd, Wayne Hatswell, gan nodi fod dechrau'r tymor wedi bod yn "siomedig."
Mewn datganiad, ychwanegodd y clwb: "Rydym eisiau diolch i Dave a Wayne am eu gwaith caled a'u hymroddiad yn ystod eu cyfnod gyda'r clwb, ac yn dymuno'r gorau iddyn nhw ar gyfer y dyfodol."
Cafodd David Hughes ei benodi yn rheolwr Casnewydd fis Mai, wrth iddo roi'r gorau i fod yn hyfforddwr ieuenctid Manchester United, er mwyn derbyn ei rôl gyntaf fel rheolwr ar y lefel uwch.
Llun: Asiantaeth Huw Evans