Aberteifi: Dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes

Ardal cychod

Mae dyn 29 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod yn Aberteifi brynhawn Sadwrn. 

Cafdd swyddogjon eu galw i ardal Pwll y Rhwyd am 12.35pm. 

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn y dref yn ne Ceredigion. 

Mae teulu'r ddynes wedi cael gwybod ac yn cael cymorth swyddogion arbenigol, yn ôl y llu. 

Mae'r heddlu'n ceisio darganfod yr amgylchiadau arweiniodd at y farwolaeth, ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn yr ardal yn y cyfnod wedi 9.00, nos Iau 13 Tachwedd.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.