Apêl wedi i yrrwr beic modur farw yn Sir Gâr

A476, Heol Y Plas

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i yrrwr beic modur farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr fis diwethaf.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A476, Heol Y Plas, rhwng Cross Hands a Llannon rhywbryd rhwng  20:45 a 21:15 ar nos Sadwrn 25 Hydref.

Bu farw gyrrwr y beic modur, sef Yamaha coch, yn y fan a'r lle. Nid oedd unrhyw gerbyd arall yn y gwrthdrawiad.

Mae teulu'r dyn sydd wedi marw yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol yr heddlu.

Mae'r heddlu wedi gofyn am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y ffordd yn ystod y cyfnod dan sylw i gysylltu gyda nhw.

Mae swyddogion yn awyddus yn benodol i siarad gydag unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar y pryd fyddai gyda lluniau dash-cam yn eu cerbydau.

Gall unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad ddefnyddio'r cyfeirnod 25*878082 wrth gysylltu gyda Heddlu Dyfed-Powys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.