Cipolwg ar gemau dydd Sadwrn y Cymru Premier JD

CPD Bae Colwy

Hanner ffordd drwy’r tymor yn y Cymru Premier JD ac mae ‘na olwg o gyfarwydd ar y tabl gyda’r Seintiau Newydd yn eistedd yn gyfforddus ar y copa.

Er hynny, fe gafodd y pencampwyr dipyn o sioc nos Wener ddiwethaf wrth golli 3-2 gartref yn erbyn Met Caerdydd i ddod â rhediad o 13 buddugoliaeth yn olynol i ben.

Mae’n gaddo i fod yn ras gyffrous am yr ail safle eto eleni, gyda Phen-y-bont, Caernarfon a Chei Connah yn cystadlu am yr ail docyn i Ewrop, a dim ond un pwynt yn gwahanu’r tri chlwb.

Yn y ras am y Chwech Uchaf, dau bwynt yn unig sy’n gwahanu’r tri thîm rhwng y 6ed a’r 8fed safle, sef Met Caerdydd, Y Barri, a’r Bala.

31 pwynt ydi’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, a byddai buddugoliaethau i Ben-y-bont, Caernarfon a Chei Connah yn eu codi dros y trothwy hwnnw ddydd Sadwrn.

A thua’r gwaelod, mae’n edrych yn llwm ar Lanelli sydd wedi colli chwe gêm gynghrair yn olynol, ond mae’n dynn eithriadol rhwng Hwlffordd, Y Fflint a Llansawel yn y frwydr i osgoi’r cwymp.

Cei Connah (4ydd) v Y Barri (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar ôl dechrau heriol i’w gyfnod fel rheolwr newydd Cei Connah, mae’r canlyniadau wedi gwella’n sylweddol i John Disney yn ddiweddar gyda’r Nomadiaid bellach ar rediad o wyth gêm heb golli.

Mae Cei Connah wedi sgorio tair gôl ym mhob un o’u saith gêm ddiwethaf a dyw’r Nomadiaid ond un pwynt y tu ôl i Pen-y-bont (2il) gyda gêm wrth gefn.

Daeth newyddion o Gei Connah yr wythnos hon bod y clwb yn bwriadu adeiladu stadiwm newydd a chyflogi chwaraewyr llawn amser, ac felly mae’n gyfnod cyffrous i selogion y clwb a enillodd y bencampwriaeth ddwy flynedd o’r bron yn 2019/20 a 2020/21.

Er ennill dim ond pedair o’u 16 gêm gynghrair y tymor hwn (25%), mae’r Barri’n dechrau’r penwythnos yn y 7fed safle.

Mae’r Dreigiau ar rediad o chwe gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ond mae hanner eu gemau cynghrair wedi gorffen yn gyfartal y tymor hwn (8/16).

Di-sgôr oedd hi yn yr ornest gyfatebol ym mis Medi, ond mae’r Barri wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf oddi cartref yn erbyn Cei Connah.

Record gynghrair ddiweddar: 

Cei Connah: ✅✅➖✅✅

Y Barri: ❌➖➖✅➖

Hwlffordd (11eg) v Bae Colwyn (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Hwlffordd yn parhau i eistedd yn safleoedd y cwymp ar ôl methu ag ennill dim un o’u pum gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.

Er hynny, mae’r Adar Gleision wedi dangos cymeriad yn eu tair gêm gynghrair ddiwethaf, yn brwydro ‘nôl i gipio pwyntiau gwerthfawr oddi cartref yn erbyn Cei Connah a Chaernarfon, a bron a gwneud yr un fath gartref yn erbyn y pencampwyr (Hwl 2-3 YSN).

Dyw Bae Colwyn m’ond wedi colli unwaith yn eu saith gêm ddiwethaf, ac mae’r Gwylanod ar y trywydd cywir i hawlio lle’n y Chwech Uchaf yn eu tymor cyntaf ers esgyn yn ôl i’r uwch gynghrair.

Caernarfon oedd y clwb diwethaf i gyrraedd y Chwech Uchaf yn eu tymor cyntaf ar ôl ennill dyrchafiad, a hynny yn nhymor 2018/19.

Roedd hi’n hunllef i Hwlffordd yn y gêm gyfatebol ym mis Medi, yn colli o 3-0 yn Ffordd Llanelian ac yn gorffen y gêm gyda dim ond naw dyn ar y cae wedi i Alaric Jones a Ben Fawcett weld cardiau coch.

Record gynghrair ddiweddar: 

Hwlffordd: ❌✅➖❌➖

Bae Colwyn: ͏✅➖✅❌✅

Llanelli (12fed) v Caernarfon (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Llanelli sy’n parhau ar waelod y tabl ar ôl colli 13 o’u 16 gêm gynghrair ers eu dyrchafiad dros yr haf, gan ennill dim ond ddwywaith hyd yma (vs Hwlffordd a Llansawel).

Ers ennill dwy gêm yn olynol ar ddiwedd mis Medi mae Llanelli bellach wedi colli chwe gêm gynghrair o’r bron ac mae yna fwlch o wyth pwynt wedi agor rhyngddyn nhw a diogelwch y 10fed safle.

Mae Caernarfon yn parhau’n dynn ar sodlau Pen-y-bont yn y ras am yr ail safle, ond roedd y Cofis yn siomedig o orfod rhannu’r pwyntiau efo Hwlffordd ddydd Sadwrn ar ôl ildio wedi 99 munud ar Barc Maesdu (Cfon 2-2 Hwl).

Roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus o 6-1 i Gaernarfon yn y gêm gyfatebol ym mis Awst gydag Adam Davies yn taro hatric i’r Caneris.

Dyw Llanelli ddim wedi curo Caernarfon ers 16 o flynyddoedd, pan enillodd y Cochion o 5-0 ar yr Oval gyda Rhys Griffiths yn sgorio ddwywaith ac yn creu’r dair arall i’r ymwelwyr.

Record gynghrair ddiweddar: 

Llanelli: ❌❌❌❌❌

Caernarfon: ͏❌➖✅✅➖

Pen-y-bont (2il) v Y Bala (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Cyn wynebu’r Seintiau Newydd yng nghanol mis Hydref roedd Pen-y-bont chwe phwynt yn glir yn yr ail safle, a dim ond driphwynt y tu ôl i’r pencampwyr.

Ond ar ôl colli tair o’u pedair gêm gynghrair ers hynny, mae Pen-y-bont wedi colli gafael ar y Seintiau, a dyw tîm Rhys Griffiths m’ond un pwynt uwchben Caernarfon (3ydd) a Chei Connah (4ydd) yn y ras am yr ail safle.

Ar ôl colli chwech o’r wyth gêm ddiwethaf mae’r Bala wedi syrthio i’r 8fed safle, a sgorio goliau yw prif broblem y clwb, gan mai dim ond Llanelli (0.5 gôl y gêm) sydd wedi rhwydo llai na Hogiau’r Llyn yn y gynghrair y tymor hwn (0.7 gôl y gêm).

Llwyddodd blaenwr Pen-y-bont, James Crole i sgorio pedair gôl mewn pedair gêm yn erbyn Y Bala yn ystod y tymor diwethaf, ond di-sgôr oedd hi yn yr ornest gyfatebol ar Faes Tegid ym mis Medi y tymor hwn.

Record gynghrair ddiweddar:

Pen-y-bont: ͏✅❌❌✅❌

Y Bala: ❌❌➖✅❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.