Cyhuddo dyn 64 oed mewn cysylltiad â digwyddiad Sul y Cofio yn Llandudno
Mae dyn 64 oed wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â digwyddiad Sul y Cofio yn Llandudno yr wythnos diwethaf.
Fe gafodd Jonathan Carley o Harlech ei arestio yn ei gartref yn gynharach ddydd Gwener, ac fe gafodd ei gyhuddo yn ddiweddarach o wisgo lifrai gydag arwydd Lluoedd Ei Fawrhydi heb ganiatâd.
Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ar 11 Rhagfyr.
Fe gafodd lluniau eu rhannu yn eang yn y wasg ac ar-lein yn dangos y dyn yn gwisgo lifrai a medalau swyddog rheng uchaf yn y llynges wrth fynychu gwasanaeth i osod torchau ar Sul y Cofio.
Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan: "Rydym yn ymwybodol fod y digwyddiad yma wedi achosi pryder sylweddol ymysg y cyhoedd, yn enwedig gan fod hyn wedi digwydd ar Sul y Cofio.
"Fe wnaeth swyddogion ymateb yn gyflym i'r adroddiadau i Heddlu'r Gogledd wrth arestio dyn a'i gyhuddo.
"Rydym yn annog aelodau o'r cyhoedd i osgoi dyfalu ar-lein ac i beidio â rhannu unrhyw gynnwys a allai beryglu achosion llys yn y dyfodol."
