Gwrthod cais am 277 o dai newydd yn Abergele, Sir Conwy
Mae cais cynllunio ar gyfer adeiladu 277 o dai yn Abergele, Sir Conwy, wedi ei wrthod yn dilyn pryderon am bwysau ychwanegol ar ysgolion a ffyrdd lleol.
Byddai'r cynllun wedi cynnwys cymysgedd o dai unigol a thai teras, gan gynnwys 131 o gartrefi rhent cymdeithasol.
Y bwriad oedd cynnwys lle chwarae i blant a rhai gwelliannau i'r ffyrdd cyfagos.
Cafodd y cais ei wthod mewn cyfarfod o bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Conwy ddydd Mercher.
Fe wnaeth Cyngor Tref Abergele a thrigolion lleol leisio gwrthwynebiadau cryf i'r cais.
Roedd pryderon yn canolbwyntio ar balmentydd cul, y pwysau ar ysgolion lleol a meddygfeydd, a thagfeydd traffig.
Wrth siarad yn y cyfarfod cynllunio, dywedodd un dyn lleol, Neville Eden: “Mae Ffordd San Siôr eisoes yn beryglus ac yn rhy gul i ymdopi â mwy o draffig.
"Mae'r un peth yn wir am Faes y Dre, sy'n cael ei defnyddio yn aml fel llwybr byr.
“Mae'r palmentydd yn gul, wedi'u cynnal a'u cadw'n wael, ac yn aml yn gorfodi cerddwyr i'r ffordd.”
Roedd yr Aelod o Senedd Cymru Darren Millar hefyd wedi gwrthwynebu'r cais cyn y cyfarfod, gan ddadlau bod ysgolion lleol a'r ganolfan feddygol eisoes yn ei chael hi'n anodd i ymdopi.
Fe wnaeth un o gynghorwyr Abergele, Andrew Wood, ddadlau yn erbyn y cais, gan ddweud y byddai'n orddatblygiad sylweddol.
“Rydym newydd gymryd dros 600 o gartrefi newydd, a chyda’r ychwanegiad newydd hwn, bydd yn mynd â ni i bron i 900 o gartrefi.
"Byddai hyn yn cynyddu ein poblogaeth tua 25%” meddai.
Pleidleisiodd wyth cynghorydd i wrthod y cais, a hynny yn groes i gyngor y swyddogion i’w gymeradwyo.
Pleidleisiodd pump o blaid, ac fe wnaeth un cynghorydd ymatal.
