Cipolwg ar gemau nos Wener y Cymru Premier JD
Dyma gipolwg ar gemau nos Wener y Cymru Premier JD.
Met Caerdydd (6ed) v Llansawel (9fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Met Caerdydd yn ôl yn yr hanner uchaf yn dilyn buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Wener ddiwethaf (YSN 2-3 Met).
Mae carfan Ryan Jenkins wedi codi’r safon yn ddiweddar gan ennill chwech o’u wyth gêm ddiwethaf i ddringo o waelodion y tabl i’r 6ed safle.
Bydd Llansawel yn llawn hyder hefyd ar ôl hawlio eu buddugoliaeth gyntaf gartref yn y gynghrair ers mis Mawrth drwy guro’r Bala o 2-0 ar yr Hen Heol nos Wener.
Dyw Llansawel m’ond driphwynt uwchben safleoedd y cwymp, ond pe bae nhw’n ennill nos Wener yma, yna byddai dynion Andy Dyer ond dau bwynt y tu ôl i Met Caerdydd (6ed) gyda gêm wrth gefn.
Gorffennodd hi’n 1-1 yn y gêm gyfatebol rhwng y ddau dîm ym mis Awst ble sgoriodd Ruben Davies i Lansawel cyn i Jasper Payne unioni i’r myfyrwyr yn erbyn ei gyn-glwb.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏✅➖✅❌✅
Llansawel: ͏✅❌❌❌✅
Y Fflint (10fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45
Daeth rhediad rhagorol Y Seintiau Newydd o 13 buddugoliaeth yn olynol i ben nos Wener wrth i’r pencampwyr golli gartref yn erbyn Met Caerdydd.
Yn ymateb i’r golled, dywedodd rheolwr y Seintiau, Craig Harrison bod perfformiad amddiffynnol ei dîm wedi bod yn chwerthinllyd ac mi fydd yn sicr yn disgwyl gwell gan ei garfan broffesiynol y penwythnos yma.
Ar ôl sicrhau dim ond un pwynt o’u tair gêm ddiwethaf mae’r Fflint wedi llithro i’r 10fed safle, dau bwynt uwchben safleoedd y cwymp.
Dyw’r Fflint heb guro’r Seintiau ers 30 mlynedd, ac yn y saith gornest ddiwethaf rhwng y clybiau mae’r Seintiau wedi sgorio cyfartaledd o 5.6 gôl y gêm, yn cynnwys buddugoliaethau swmpus o 8-1, 7-0 a 6-2.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌✅❌❌➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅❌
