Diddymu Comisiynwyr yr Heddlu: Galw am ddatganoli grymoedd i Gymru

Heddlu

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatganoli grymoedd dros yr heddlu i Gymru wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi y bydd rôl Comisiynwyr yr Heddlu yn dod i ben.

Dywedodd y Swyddfa Gartref ddydd Iau y bydd swyddogaeth Comisiynwyr yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr yn dod i ben yn 2028 er mwyn arbed o leiaf £100 miliwn.

Mae gan Gymru bedwar o gomisiynwyr ar hyn o bryd, sef Dafydd Llywelyn o Blaid Cymru yn ardal Dyfed-Powys, ac Andy Dunbobbin, Emma Wools a Jane Mudd o’r Blaid Lafur yn ardaloedd heddluoedd y Gogledd, De a Gwent.

Fe gafodd swyddi Comisiynwyr yr Heddlu eu cyflwyno yn 2012 ac mae eu cyfrifoldebau'n cynnwys gosod cyllidebau ar gyfer eu heddluoedd a phenodi’r prif gwnstabl ar gyfer eu hardal.

Yn Lloegr bydd y grymoedd yn cael eu datganoli i feiri datganoledig ac i gynghorau lleol ond doedd dim cadarnhad eto am y trefniadau terfynol yng Nghymru.

Dywedodd y gweinidog plismona Sarah Jones wrth Dŷ’r Cyffredin ddydd Iau y bydd y trefniadau newydd yn cydnabod amgylchiadau “unigryw” Cymru.

“Nid oes unrhyw gynlluniau i greu meiri yng Nghymru,” meddai.

“Rydym yn dymuno cysoni trefniadau ledled Cymru a Lloegr cyn belled ag y bo modd, ac felly byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod trefniadau newydd i ddisodli Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn darparu llywodraethiant cryf ac effeithiol i Gymru, gan gydnabod natur unigryw trefniadau Cymru.”

'Croesawu'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder, Adam Price AS eu bod nhw wedi dadlau ers tro y dylid diddymu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

“Ein cred ni yw na ddylai plismona fod â chymhelliant gwleidyddol,” meddai.

“Felly rydym yn croesawu penderfyniad heddiw, ond rhaid i hyn ddod law yn llaw â datganoli pwerau cyfiawnder a phlismona'n llawn.

"Byddai sefydlu system gyfreithiol Gymreig ar wahân a sicrhau bod ein heddluoedd yn atebol i'r Senedd, a fyddai yn gam hanfodol tuag at Gymru decach a chenedl hyderus, hunanlywodraethol. 

"Dros chwarter canrif ers datganoli, Cymru yw'r unig genedl ddatganoledig heb ei system gyfreithiol ei hun a'i phwerau dros ei heddluoedd. Nid oes sail resymegol i hynny.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C ei fod yn fater i Lywodraeth y DU.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU am sylw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.