Rees-Zammit yn dechrau i Gymru ar gyfer gêm Japan
Bydd Louis Rees-Zammit yn dechrau i Gymru wrth i’r prif hyfforddwr, Steve Tandy enwi ei dîm i chwarae yn erbyn Japan ddydd Sadwrn.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality am 5.40pm ac yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C.
Y bachwr Dewi Lake fydd yn arwain y tîm ar ôl anaf Jac Morgan yn erbyn yr Ariannin, wedi iddo gael y profiad o wneud hynny yn y ddwy gêm brawf yn Japan ym mis Gorffennaf.
Yn ymuno â Lake yn rheng flaen Cymru fydd y prop pen rhydd Nicky Smith, ac Archie Griffin, fydd yn brop pen tynn – sef yr un triawd ddechreuodd yr ail brawf yn Kobe yr haf hwn.
Mae Dafydd Jenkins ac Adam Beard yn parhau gyda’u partneriaeth yn yr ail reng.
Yn y rheng ôl, mae Aaron Wainwright yn symud o safle’r wythwr i fod yn flaen-asgellwr ochr dywyll tra bo Alex Mann yn dechrau ar ochr agored y rheng ôl.
Wedi i’r wythwr, Olly Cracknell gamu o’r fainc ddydd Sul i ennill ei gap cyntaf – gan ddod y 1,216fed chwaraewr rhyngwladol i gynrychioli Cymru yn y broses – mae’n cael ei gyfle cyntaf i ddechrau dros ei wlad ddydd Sadwrn yma.
Un newid sydd ymysg olwyr Cymruwrth i Louis Rees-Zammit ddechrau ar yr asgell, wedi iddo gamu o’r fainc i chwarae ei gêm gyntaf i Gymru ers Cwpan Rygbi’r Byd 2023 ddydd Sul diwethaf.
Ymhlith yr eilyddion i Gymru mae Liam Belcher, Rhys Carré, Keiron Assiratti, Freddie Thomas a Taine Plumtree yn opsiynau o safbwynt y pac i Steve Tandy, tra mai Kieran Hardy, Jarrod Evans a Nick Tompkins fydd yr olwyr fydd yn dechrau ar y fainc.
‘Barod i ddechrau’
Dywedodd Steve Tandy: "Dechreuodd y propiau’r gêm yn dda iawn ddydd Sul a’r bwriad o’r dechrau oedd rhoi amser ar y cae i’r propiau eraill hefyd.
“Dyna wnaethon ni wedi 45 munud o chwarae a dwi’n credu bod hynny’n bwysig gan mai dim ond chwe niwrnod sydd rhwng y ddwy gêm gyntaf yma o’r Gyfres.
“Ry’n ni wedi gorfod ad-drefnu pethau yn y rheng ôl rywfaint wrth gwrs.
“Mae gan Alex Mann yr holl rinweddau sydd eu hangen i wisgo’r crys rhif 7 a dwi’n credu bod symud Aaron Wainwright i’r ochr dywyll a rhoi’r cyfle i Olly Cracknell ddechrau’n safle’r wythwr yn rhoi cydbwysedd da iawn i ni.
"Mae Louis Rees-Zammit yn cael ei gyfle i ddechrau ar yr asgell. Fe gafodd dipyn o amser ar y cae ddydd Sul ac ry’n ni fel tîm hyfforddi’n teimlo ei fod yn barod i ddechrau gêm dros Gymru unwaith eto.
"Dwi’n credu bod y tîm wedi rhoi cipolwg i ni o’r math o gêm ry’n ni am ei chwarae am gyfnodau yn erbyn Ariannin y penwythnos diwethaf.
“Wrth gwrs bod lle i wella ond roedd nifer o agweddau o’n chwarae ni wedi fy ngwneud i’n falch iawn. Roedden ni’n gorfforol ac yn edrych yn fygythiol wrth ymosod.
“Mae angen i ni adeiladau ar y pethau positif hynny y penwythnos hwn."
Wrth sôn am ei benderfyniad i ddewis Dewi Lake yn gapten, ychwanegodd Tandy: "Mae Dewi’n wych wrth iddo ddelio gyda gweddill y garfan. Mae wastad ar gael i helpu unrhyw un o’r bechgyn eraill.
“Mae ganddo rhyw egni arbennig ac mae’n gosod y safon disgwyliedig wrth ymarfer hefyd. Mae Dewi’n arweinydd aruthrol ac fe wnaiff waith gwych yn gapten ar y tîm."
Tîm Cymru v Japan
15. Blair Murray (Scarlets – 11 cap)
14. Louis Rees-Zammit (Bryste – 33 cap)
13. Max Llewellyn (Caerloyw – 9 cap)
12. Ben Thomas (Caerdydd – 15 cap)
11. Josh Adams (Caerdydd – 64 cap)
10. Dan Edwards (Gweilch – 4 cap)
9. Tomos Williams (Caerloyw – 65 cap)
1. Nicky Smith (Caerlŷr – 57 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 23 cap) captain | capten
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 9 cap)
4. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 24 cap)
5. Adam Beard (Montpellier – 59 cap)
6. Aaron Wainwright (Dreigiau – 60 cap)
7. Alex Mann (Caerdydd – 8 cap)
8. Olly Cracknell (Caerlŷr – 1 cap)
Eilyddion
16. Liam Belcher (Caerdydd – 3 cap)
17. Rhys Carré (Saraseniaid – 21 cap)
18. Keiron Assiratti (Caerdydd – 16 cap)
19. Freddie Thomas (Caerloyw – 5 cap)
20. Taine Plumtree (Scarlets – 8 cap)
21. Kieran Hardy (Gweilch – 26 cap)
22. Jarrod Evans (Harlequins – 12 cap)
23. Nick Tompkins (Saraseniaid – 41 cap)
