Keir Starmer am 'gael gwared' ar y rheini fu'n creu stŵr yn y wasg

Keir Starmer

Fe fydd y Prif Weinidog yn “cael gwared” ar yr unigolion oedd yn gyfrifol am greu helynt am arweinyddiaeth y blaid yn y wasg os yw’n dod o hyd iddyn nhw, yn ôl un o'i weinidogion.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Miliband bod Keir Starmer yn cynnal ymchwiliad i darddiad y ffrae.

Fe wnaeth y Prif Weinidog ymddiheuro i’w Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting ddydd Mercher wedi i adroddiadau yn y wasg nos Fawrth awgrymu bod yr AS yn cynllwynio yn ei erbyn.

Mae Wes Streeting wedi gwadu unrhyw gynlluniau o’r fath gan ddweud bod yr honiadau yn amlygu problemau gyda’r criw sy’n amgylchynu Keir Starmer.

Wrth siarad ar Sky News fore Iau dywedodd Ed Miliband: “Rydw i wedi siarad â Keir o’r blaen am y math yma o friffio sy’n digwydd. 

“Fel mae e’n ei ddweud bob amser, os bydd e’n dod o hyd i’r person, bydd e’n cael gwared arnyn nhw, ac rydw i’n credu’n llwyr y byddai e’n gwneud hynny," meddai.

Dywedodd bod briffio o’r fath yn “agwedd hirhoedlog” o wleidyddiaeth y DU gan gyfeirio at y briffio rhwng cynghorwyr y cyn brif weinidogion Tony Blair a Gordon Brown.

Gwrthododd Mr Miliband unrhyw awgrym ei fod ymhlith y rhai oedd yn ymladd i gymryd lle Syr Keir fel arweinydd Llafur yn y dyfodol.

“Roeddwn i’n arweinydd y Blaid Lafur rhwng 2010 a 2015,” meddai.

“Mae’r crys-T gen i. Mae’r bennod honno wedi ei chloi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.