Arweinydd Cyngor Sir Gâr yn ymddiswyddo am 'resymau personol'

Darren Price

Mae'r Cynghorydd Darren Price wedi gadael ei swydd fel Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin. 

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan y cyngor sir brynhawn Mercher, gyda'r awdurdod yn cadarnhau fod Mr Price wedi gadael ei swydd am "resymau personol."

Dywedodd y cyngor y bydd Mr Price yn parhaul fel cynghorydd Plaid Cymru, er iddo benderfynu ymddiswyddo fel Arweinydd y cyngor. 

Mae disgwyl i Arweinydd newydd gael ei benodi yng nghyfarfod llawn nesaf y Cyngor, sydd ar hyn o bryd i'w gynnal ar 10 Rhagfyr 2025.

Bydd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir yn cyflawni ei gyfrifoldebau nes bod y swydd wedi'i llenwi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.