E-byst gan Epstein sy’n sôn am Trump yn ymdrech i ‘greu naratif ffug’
Mae’r Tŷ Gwyn wedi dweud bod cyhoeddi e-byst gan y pedoffeil Jeffrey Epstein sy’n crybwyll Donald Trump, yn ymgais gan Ddemocratiaid i “greu naratif ffug”.
Fe wnaeth y troseddwr rhyw Jeffrey Epstein grybwyll Donald Trump mewn e-byst sydd wedi eu cyhoeddi ddydd Mercher gan wleidyddion Democratiaid ar un o bwyllgorau Tŷ’r Cynrychiolwyr yn America.
Roedd yr e-byst rhwng Jeffrey Epstein a’i gyfaill Ghislaine Maxwell, a gafodd ei dedfrydu i garchar am 20 mlynedd yn 2022 am fasnachu ar gyfer rhyw, a’r awdur Michael Wolff, wedi eu gyrru dros gyfnod o wyth mlynedd.
Mae’r e-byst gan Jeffrey Epstein, a fu farw o ganlyniad i hunanladdiad yn y carchar yn 2019, yn dweud bod Trump “yn gwybod am y merched, ac wedi gofyn i Ghislaine stopio”. Nid yw'n eglur at beth mae hynny'n cyfeirio.
Fe gafodd yr e-byst eu cyhoeddi ddydd Mercher gan y Democratiaid ar Bwyllgor Goruchwylio Tŷ’r Cynrychiolwyr, a’u derbyniodd ar ôl gofyn i ystâd Jeffrey Epstein amdanyn nhw yn gynharach eleni.
Doedd yr Arlwydd Trump heb dderbyn na chwaith anfon yr un o’r negeseuon, a oedd yn dyddio yn bennaf i’r cyfnod cyn ei fod yn arlywydd.
Nid yw Donald Trump wedi cael ei gyhuddo o unrhyw gamwedd troseddol mewn cysylltiad ag Epstein na Maxwell.
'Codi cwestiynau'
Dywed Ysgrifennydd y Wasg y Tŷ Gwyn, Karoline Leavitt bod y Democratiaid wedi ceisio “creu naratif ffug i danseilio'r Arlywydd Trump”.
Dywedodd mai’r dioddefwr yr oedd ei henw wedi ei ddileu o’r e-byst oedd y diweddar Virginia Giuffre.
“Fe ddywedodd hi dro ar ôl tro nad oedd yr Arlywydd Trump yn rhan o unrhyw gamwedd o gwbl ac ‘na allai fod wedi bod yn fwy cyfeillgar’ iddi,” meddai.
"Y ffaith yw bod yr Arlywydd Trump wedi cicio Jeffrey Epstein allan o'i glwb ddegawdau yn ôl am fod yn ffiaidd i'w weithwyr benywaidd ei hun, gan gynnwys Giuffre.
"Nid yw'r straeon hyn yn ddim mwy nag ymdrechion i dynnu sylw oddi wrth gyflawniadau hanesyddol yr Arlywydd Trump.”
Dywedodd yr aelod Democratiaid o Dŷ’r Cynrychiolwyr, Robert Garcia, bod yr e-byst yn “codi cwestiynau”.
“Rhaid i'r Adran Gyfiawnder ryddhau ffeiliau Epstein yn llawn i'r cyhoedd ar unwaith,” meddai.