Galw ar Farage i weithredu wrth i unig aelod Reform yn y Senedd wynebu gwaharddiad

Laura Anne

Mae gwrthbleidiau wedi galw ar arweinyddiaeth plaid Reform i weithredu wrth i unig aelod y blaid yn y Senedd wynebu gwaharddiad pythefnos o hyd ar ôl defnyddio gair hiliol ar Whatsapp.

Dywedodd Pwyllgor Safonau'r Senedd wrth argymell y gwaharddiad bod sylwadau Laura Anne Jones yn “amhriodol ac yn annerbyniol”.

Bydd yn rhaid i ASau gymeradwyo'r gwaharddiad yr wythnos nesaf.

Defnyddiodd Ms Jones sarhad am bobl Tsieineaidd mewn grŵp WhatsApp ym mis Awst 2023.

“Dim ysbiwyr ***** i mi,” meddai yn y grŵp, wrth drafod yr app TikTok sy’n eiddo i gwmni o Tseina.

Mae hi wedi ymddiheuro am y sylw o'r blaen, ac mae Reform wedi dweud fod y gwleidydd "wedi gwneud ymdrech glir i wneud iawn am ei sylwadau," ond dywedodd pwyllgor safonau'r Senedd fod ei hymddygiad "ymhell islaw'r safonau a ddisgwylir" gan Aelod o Senedd Cymru.

Yn eu hadroddiad, dywedodd aelodau'r pwyllgor: "Mae'r pwyllgor yn glir nad oes lle i sylwadau amhriodol a sarhaus yn ein Senedd, nac yn y gymdeithas yn ehangach.

"Roedd y negeseuon hyn wedi'u cynnwys mewn sgwrs WhatsApp grŵp swyddfa, yn hytrach na fforwm cyhoeddus. Fodd bynnag, mae'n rhaid i aelodau gyd-fynd â’r cod bob amser.”

Dywedodd arweinydd y Democrtaiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, y dylai Reform UK “ddiarddel” Laura Anne Jones  o’r blaid am ei sylwadau “ffiaidd”.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur yng Nghymru bod angen i arweinydd Reform UK, Nigel Farage, weithredu.

“Pan adawodd Laura Anne Jones y Ceidwadwyr Cymreig am blaid Nigel Farage, dywedodd ei fod yn hyderus y byddai’r honiadau’n ‘diflannu i gyd’,” medden nhw. 

“Wel, dydyn nhw ddim wedi diflannu. Felly beth mae Farage yn mynd i’w wneud am hyn?”

Ymateb

Mewn datganiad a goheddwyd ar ôl i adroddiad y pwyllgor gael ei gyhoeddi, dywedodd Laura Anne Jones ei bod hi “yn edrych ymlaen at dynnu llinell o dan hyn ar ôl bron i ddwy flynedd o gael fy erlid”.

Ychwanegodd ei fod “wedi cael effaith niweidiol arnaf i a fy nheulu ifanc.”

Ychwanegodd: “Rwyf wedi ymddiheuro, ac rwy'n ymddiheuro eto, am y sylwadau anffodus a wnes i mewn neges breifat. Doeddwn i erioed wedi bwriadu achosi tramgwydd i unrhyw un.

“Hoffwn ddiolch i'r heddlu a'r Comisiynydd Safonau am eu hymchwiliad trylwyr, ac rwy'n derbyn eu casgliadau.”

Dywedodd llefarydd ar ran plaid Reform UK yng Nghymru: “Rydym yn diolch i'r Comisiynydd Safonau annibynnol a'r heddlu am eu hymchwiliad trylwyr ac am ddod i'r casgliad nad oedd unrhyw weithgarwch twyllodrus wedi digwydd.

“Mae Laura wedi ymddiheuro’n briodol am ei sylwadau, a wnaed mewn WhatsApp preifat, ac wedi gwneud ymdrech glir i wneud iawn am ei sylwadau.”

Ychwanegodd: “Mae’n drueni mawr, oherwydd pwyllgor sy’n cynnwys gwleidyddion Llafur, Plaid a Cheidwadwyr yn unig, na fydd llais Reform i’w glywed yn y Senedd am bythefnos.”

‘Dweud cyfrolau’

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds nad oedd “lle yng ngwleidyddiaeth Cymru ar gyfer hiliaeth na chasineb”. 

“Roedd sylwadau Laura Anne Jones yn ffiaidd, ac mae parodrwydd Reform i’w chroesawu yn dweud popeth am eu plaid,” meddai.

“Os yw Reform eisiau profi eu bod nhw’n blaid sydd o ddifrif yng Nghymru, bydden nhw’n mynd ymhellach na phwyllgor safonau’r Senedd ac yn ei diarddel hi’n gyfan gwbl. 

“Ar hyn o bryd, maen nhw’n cynrychioli anoddefgarwch, nid y Gymru rydyn ni’n credu ynddi.”

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Roedd yr iaith a ddefnyddiwyd yn ffiaidd ac yn gwbl annerbyniol, ac ni ddylai neb byth ei defnyddio – yn enwedig y rhai a etholwyd i gynrychioli ein cymunedau yn ein senedd genedlaethol. 

“Mae’n deg bod yr Aelod yn wynebu canlyniadau ei gweithredoedd.

“Mae’r ffaith bod Reform wedi derbyn yr Aelod ar ôl i’r wybodaeth ddod i’r amlwg yn dweud cyfrolau am y blaid.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.