Dyn yn pledio'n ddieuog i lofruddio Ian Watkins mewn carchar

Ian Watkins

Mae dyn wedi pledio'n ddieuog i lofruddio cyn-aelod o'r grŵp Lostprophets mewn carchar yn Sir Gorllewin Efrog.

Cafodd Ian Watkins, oedd yn 48 oed ac yn wreiddiol o Bontypridd, ei drywanu yng Ngharchar Wakefield ar 11 Hydref.

Roedd Watkins yn treulio dedfryd o 29 mlynedd yn y carchar am nifer o droseddau rhyw difrifol yn erbyn plant.

Fe wnaeth Samuel Dodsworth, 43, bledio yn ddieuog i lofruddiaeth drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Leeds ddydd Mercher.

Fe wnaeth Mr Dodsworth hefyd wadu cyhuddiad o fod â chyllell dros dro yn ei feddiant yn y carchar.

Clywodd y llys fod ail ddiffynydd, Rico Gedel, 25, wedi gwrthod gadael ei gell er mwyn ymuno efo'r galwad fideo o'r carchar i'r llys, oherwydd ei fod eisiau ymddangos yn y llys yn y cnawd. Ni chyflwynwyd unrhyw bledion ar ei ran.

Fe wnaeth y Barnwr Kearl, Cofiadur Leeds, nodi dyddiad achos llys i'r ddau ddyn o 5 Mai 2026.

Cefndir

Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i Garchar Wakefield ar 11 Hydref, ond cyhoeddwyd bod Watkins wedi marw yn y fan a'r lle.

Cafodd y cyn-seren roc ei garcharu ym mis Rhagfyr 2013 ar ôl iddo gyfaddef i gyflawni cyfres o droseddau rhyw, gan gynnwys ceisio treisio babi.

Fe wnaeth yr heddlu ei arestio ar ôl i warant cyffuriau gael ei weithredu yn ei gartref ym Mhontypridd ar 21 Fedi 2012.

Daeth swyddogion o hyd i nifer o gyfrifiaduron, ffonau symudol a dyfeisiau storio a oedd wedi datgelu ei ymddygiad.

Yn 2014, cafodd Watkins wybod na fydd modd iddo apelio yn erbyn hyd ei ddedfryd o 29 mlynedd yn y carchar am droseddau rhyw difrifol yn erbyn plant.

Yn 2019 cafodd ei garcharu am 10 mis ychwanegol ar ôl iddo gael ei gael yn euog o feddu ar ffôn symudol yn y carchar.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.