Rhybudd melyn am law i'r rhan helaeth o Gymru ddydd Gwener a Sadwrn
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd newydd melyn am law trwm i'r mwyafrif o Gymru ddydd Gwener a Sadwrn.
Daw wedi rhybudd melyn am law sydd mewn gry rhwng 06.00 a 23.00 ddydd Mercher.
Fe fydd y rhybudd newydd mewn grym o 06:00 fore Gwener tan 06:00 fore Sadwrn.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhwng 30-50mm o law ddisgyn, gyda rhai mannau yn profi rhwng 60-80mm a dros 100mm mewn ardaloedd yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae perygl y gallai'r tywydd garw effeithio ar gyflenwadau pŵer ac arwain at lifogydd.
Gallai'r glaw trwm hefyd achosi oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Fe fydd y rhybudd melyn am law mewn grym yn y siroedd isod:
• Blaenau Gwent
• Caerdydd
• Sir Ddinbych
• Merthyr Tudful
• Casnewydd
• Abertawe
• Wrecsam
• Pen-y-bont ar Ogwr
• Sir Gaerfyrddin
• Sir y Fflint
• Sir Fynwy
• Powys
• Torfaen
• Caerffili
• Conwy
• Gwynedd
• Castell-nedd Port Talbot
• Rhondda Cynon Taf
• Bro Morgannwg