COP30: Galw am 'fwy o weithredu' i fynd i'r afael â newid hinsawdd
COP30: Galw am 'fwy o weithredu' i fynd i'r afael â newid hinsawdd
Belem, Brasil. Catref cynhadledd COP eleni.
Mae arweinwyr o bedwar ban byd yn bresennol.
Y nod yw mynd i'r afael a sgileffeithiau newid hinsawdd.
Yr hyn sy'n arwyddocaol yn yr Amazon yw absenoldeb arweinwyr America a Tsieina.
Mae un sydd wedi gweithio yn COP ers dros wyth mlynedd yn dal yn bositif am werth y gynhadledd.
"Mae COP yn newid y patrwm.
"Sdim angen cydsynio bellach ar lefel byd eang i gael polisiau sy'n effeithio'r byd i gyd.
"Mae'n bwysig bod cynlluniau unigol yn cael eu gweithredu.
"Mae COP hefyd yn cynnal brwdfrydedd ac yn dangos y ffordd ymlaen.
"Mae'n dangos bod gan bawb rol i'w chwarae yn newid hinsawdd."
Mae Tywysog Cymru draw ym Mrasil.
Daeth cyfle, cyn dechrau'r gynhadledd i dynnu sylw at bryderon yn nes at gartref.
"This year, I visited the Welsh town of Pontypridd with Katherine where the community is still recovering from devastating floods.
"I met families who had lost homes, possessions and sense of security.
"A resident said that the river that once brought life to the town had become a source of fear."
Mae'r hyn mae pobl Pontypridd wedi wynebu yn ddiweddar yn symbol clir o'r heriau sy'n wynebu pawb wrth i'r hinsawdd newid.
Roedd llifogydd difrifol yma yn 2024 yn sgil stormydd Bert a Darragh a'r dref yn dal i geisio ymdopi a sgileffeithiau Storm Dennis yn 2020.
"Ychydig iawn sydd wedi newid ym Mhontypridd.
"Oes, mae gan rai busnesau giat rhag llifogydd.
"Ond, os 'dan ni'n gweld y lefelau o lifogydd welsom yn 2020 yn anffodus, byddwn ni'n gweld dinistr llwyr eto ym Mhontypridd.
"Mae angen mwy o gefnogaeth a mwy o weithredu ar fyrder."
Wythnos ddiwethaf, roedd llifogydd difrifol yn ne-orllewin Cymru gyda Sir Gar yn cael ei tharo waethaf.
Arwydd pellach o'r angen i weithredu nawr yng Nghymru.
"Dyw'r gweithredu ddim digon cyflym yng Nghymru nag yn unrhyw wlad.
"'Dan ni'n gweld realiti'r sefyllfa yn newid yn llawer cynt na'r hyn mae'r gwyddonwyr yn disgwyl.
"Mae eisiau ymateb i hwnna."
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod effeithiau dinistriol llifogydd.
Maent wedi buddsoddi £77 miliwn mewn amddiffynfeydd llifogydd eleni.
Y buddsoddiad uchaf erioed.
'Nol ym Mrasil, megis dechrau mae'r trin a'r trafod.
Bydd pobl yna, fel yng Nghymru'n gobeithio am gytundeb gan obeithio y bydd hynny'n arwain at weithredu.