Ffliw adar: 'Meddwl dwywaith am nofio yn Llyn Padarn'
Mae dynes sy'n nofio mewn llyn yn Llanberis ers bron i ddegawd yn dweud ei bod yn "meddwl dwywaith" am wneud hynny yn dilyn cofnodi achos o ffliw adar yno dros y penwythnos.
Rhybuddiodd Cyngor Gwynedd fod yna "achos sylweddol" o'r haint yn effeithio ar adar dŵr y DU, gydag o leiaf un achos mewn aderyn yn Llyn Padarn.
Roedd y cyngor wedi gosod sawl nodyn yn yr ardal yn rhybuddio pobl â chŵn i gadw oddi wrth unrhyw adar sydd yn ymddangos yn sâl neu wedi marw.
Dywedodd Anna Jones, 46, o Gaernarfon, ei bod yn "meddwl dwywaith" am fynd i nofio yn Llyn Padarn tra bod yr achos yn parhau.
"Ai ddim yna wan, wna i na ddim un o ffrindiau fi fynd yna tan mae hyn drosodd," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ella gymrith o drwy'r gaeaf, 'da ni’m yn gwbo, ond 'da ni'n gobeithio ddim achos natur sy’n diodda.
"Mae o'n torri calon fi achos 'da ni'n mynd yna, 'da ni’n gweld yr elyrch a’r chwiaid - maen nhw’n dod i ddeud helo."
Daw'r newyddion yn dilyn adroddiadau am sawl alarch a gŵydd marw yn Llyn Padarn dros yr wythnosau diwethaf.
Oes lle i boeni?
Dywedodd Davey Jones, Athro Gwyddor Pridd ac Amgylcheddol o Brifysgol Bangor, bod achosion o ffliw adar mewn pobl yn brin iawn.
Er bod y ffliw yn gallu lledaenu drwy ddŵr, mae'n dweud mai'r ffordd fwyaf tebygol o ddal yr haint ydi trwy gysylltiad agos gydag adar heintus.
"Hyd y gwn i, does erioed wedi bod unrhyw achosion dogfennedig o drosglwyddo yn ymwneud â phobl sydd yn nofio mewn dŵr lle mae ffliw adar," meddai.
"Mewn gwirionedd, mae'n debygol bod 'na olion o ffliw adar mewn nifer o fannau nofio oherwydd ei fod mor gyffredin ar hyn o bryd.
"Ond mae'r siawns y bydd pobl yn ei ddal yn andros o isel."
Yn ôl yr Athro Jones, dylai'r rhai sy'n dymuno nofio yn Llyn Padarn gymryd camau diogelwch.
"Osgowch nofio mewn dŵr sydd yn amlwg wedi ei halogi lle mae adar marw yn arnofio yno," meddai.
"Ac os ydych chi'n mynd i nofio, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo siwt wlyb ac yn cymryd cawod wedyn."
Ychwanegodd: "Mae gennym amcangyfrifon da iawn ar faint o ddŵr y mae pobl yn ei yfed pan maen nhw'n nofio mewn dŵr agored.
"Ac fel arfer, mae faint o ddŵr maen nhw'n ei yfed yn rhy isel i gyrraedd dos heintus."
Yn y tymor a ddechreuodd ym mis Hydref, mae 36 achos o ffliw adar pathogenig iawn wedi eu cadarnhau yn y DU.
Cafodd un achos dynol o ffliw adar ei gadarnhau ym mis Ionawr a hynny ar fferm yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.
Roedd y person yma wedi bod mewn cysylltiad agos a pharhaus gyda nifer fawr o adar heintus.
Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn mynnu bod y risg i iechyd y cyhoedd yn "isel iawn".