Cynnydd yn nifer y carcharorion benywaidd o Gymru
Roedd cynnydd yn nifer y carcharorion benywaidd o Gymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol yn 2024, yn ôl astudiaeth newydd.
Ac mae’r dadansoddiad diweddaraf yn pwysleisio'r angen am "ddull cwbl wahanol", yn ôl academydd o Brifysgol Caerdydd
Yn ôl y gwaith ymchwil diweddaraf gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, roedd nifer y menywod a gafodd ddedfrydau o garchar ar unwaith yng Nghymru ar ei lefel uchaf yn 2024 ers dechrau pandemig Covid-19.
Cynyddodd nifer y menywod a gafodd ddedfrydau o fis neu lai mewn llysoedd yng Nghymru 51% y llynedd hefyd, yn ôl eu hymchwil.
Mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod nifer y menywod yng Nghymru a gafodd eu hanfon i’r ddalfa mewn llysoedd ynadon wedi cynyddu 25% yn 2024.
Cafodd cyfanswm o 555 o fenywod eu hanfon i’r ddalfa naill ai gan ynadon (350) neu yn Llys y Goron (205) yng Nghymru y llynedd.
Dr Robert Jones o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd yw awdur yr adroddiad.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud nad yw'r system garchardai "yn gweithio ar gyfer y mwyafrif o fenywod" a'i bod wedi sefydlu Bwrdd Cyfiawnder Menywod er mwyn ceisio lleihau nifer y menywod sydd dan glo.
Ym mis Medi, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei setiau cyntaf o ddata am garcharorion sy’n benodol i Gymru ac sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae'r adroddiad hwn gan Brifysgol Caerdydd yn cynnwys dadansoddiad o'r data hwnnw, ochr yn ochr â ffigurau ychwanegol a gafodd eu casglu drwy Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
'Blwyddyn anodd'
Dywedodd Dr Jones: "Mae’r dadansoddiad hwn yn dangos bod 2024 wedi bod yn flwyddyn anodd arall i garchardai yng Nghymru. Er gwaethaf yr addewidion a’r ymrwymiadau lu i helpu i ddargyfeirio menywod o'r system cyfiawnder troseddol a hyrwyddo'r defnydd o ddewisiadau eraill yn lle mynd i’r carchar, mae nifer y carcharorion benywaidd o Gymru yn cynyddu o hyd."
Yn ôl yr adroddiad, mae "gorgynrychioli unwaith yn rhagor ymhlith y rheini o gefndiroedd ethnig leiafrifol yng Nghymru mewn camau gwahanol o'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru."
Mae unigolion o leiafrif ethnig yng Nghymru yn fwy tebygol o gael eu hanfon i’r ddalfa, eu dedfrydu i gyfnodau carchar hirach a'u gorfodi i dreulio cyfran uwch o'u dedfryd yn y carchar, yn ôl y ddogfen.
Mae canfyddiadau eraill wedi eu nodi hefyd:
- Cafodd 2,227 o bobl eu rhyddhau o garchardai Cymru yn unol â chynllun rhyddhau cynnar SDS40 y Weinyddiaeth Gyfiawnder rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025;
- Cynyddodd y niferoedd a gafodd eu rhyddhau o garchardai Cymru heb gyfeiriad sefydlog i ddychwelyd iddo 34% yn 2024;
- Roedd cyfanswm o 560 o bobl a oedd wedi gadael carchardai o dan reolaeth gwasanaethau prawf Cymru yn cysgu ar y stryd ar ddiwrnod eu rhyddhau yn 2024/25;
- Roedd mwy o bobl nag erioed (21) o farwolaethau ledled ystad carchardai Cymru yn 2024, a chofnodwyd 17 o’r rhain yng Ngharchar y Parc, ym Men-y-bont ar Ogwr
- Cynyddodd ymosodiadau gan garcharorion ar garcharorion eraill (2%), ymosodiadau ar y staff (22%) a digwyddiadau hunan-niweidio (11%) ledled ystad carchardai Cymru yn 2024.
Ychwanegodd Dr Jones: "Drwy barhau i ofyn cwestiynau treiddgar a phellgyrhaeddol am weithredu’r system yng Nghymru, mae’r adroddiad diweddaraf hwn unwaith eto’n cyfrannu at ddadleuon gwleidyddol, academaidd a chyhoeddus ar gyfiawnder troseddol.
"Ni ellir gorbwysleisio'r angen am drafodaeth ddifrifol a pharhaus ynghylch cyflwr presennol a dyfodol y system Gymreig – yn benodol wrth i lefelau hunan-niweidio yng ngharchardai Cymru gynyddu, y defnydd parhaus o ddedfrydau tymor byr, cynnydd pellach yn y defnydd o gadw yn y ddalfa, anghymesuredd hiliol, a blwyddyn arall pan fydd Cymru ar frig siartiau carcharu gorllewin Ewrop."
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud nad "yw'r system garchardai y gwnaeth y llywodraeth yma ei etifeddu yn gweithio ar gyfer y mwyafrif o fenywod. Dyna pam rydym wedi sefydlu Bwrdd Cyfiawnder Menywod er mwyn cynghori'r llywodraeth sut i leihau nifer y menywod sydd dan glo a rhoi gwell cefnogaeth i fenywod yn y gymuned."