Rhybudd melyn am law trwm i rannau o'r de
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i rannau o'r de, ddydd Mercher.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 06.00 dydd Mercher a 23.59 yr hwyr.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhwng 20-30 mililitr o law ddisgyn dros gyfnod o 12-15 awr.
Gall ardaloedd ar dir uwch, yn enwedig y rhai sy'n wynebu'r de, weld hyd at 40-50mm o law.
Mae perygl y gallai'r tywydd garw effeithio ar gyflenwadau pŵer ac arwain at lifogydd.
Gallai'r glaw trwm hefyd achosi oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Wedi glaw trwm nos Fawrth, roedd rhybuddion coch am lifogydd mewwn dwy ardal yn Sir Gaerfyrddin, ar Afon Gwendraeth Fawr ym Mhont-iets a Phont-henri ac Afon Dulais ym mhentref Pwll, ger Llanelli.
Fe wnaeth Pont-iets ddioddef llifogydd yr wythnos diwethaf, gyda phobl yn gorfod gadael eu cartrefi.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Bro Morgannwg
- Blaenau Gwent
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Fynwy
- Torfaen