Cymru heb Ben Davies a Kieffer Moore ar gyfer dwy gêm dyngedfennol
Mae Ben Davies a Kieffer Moore allan o garfan Cymru ar gyfer y ddwy gêm dyngedfennol yn erbyn Liechtenstein a Gogledd Macedonia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Fe fydd tîm Craig Bellamy yn wynebu Liechtenstein oddi cartref ddydd Sadwrn, a Gogledd Macedonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth nesaf.
Mae Ben Cabango hefyd wedi gorfod gadael y garfan, ac fe fydd Isaak Davies and Rhys Norrington-Davies yn dod yn eu lle.
Mae'n edrych yn debygol iawn mai'r gemau ail-gyfle ydy'r cyfle gorau i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd bellach, gyda Chymru bellach yn y trydydd safle gyda 10 pwynt.
Mae Gogledd Macedonia yn ail gyda 13 pwynt, a Gwlad Belg ar y brig gyda 14 o bwyntiau.
Mae tynged Cymru yn eu dwylo eu hunain i sicrhau’r ail safle, ond mae'n rhaid iddyn nhw guro Liechtenstein oddi cartref a Gogledd Macedonia yng ngêm olaf y grŵp yng Nghaerdydd i wneud hynny.
Yn dechnegol, byddai buddugoliaeth efo gwahaniaeth goliau sylweddol yn erbyn Liechtenstein a gêm gyfartal yn erbyn Gogledd Macedonia hefyd yn ddigon i sicrhau’r ail safle.
Os ydy Cymru yn gorffen yn drydydd, maen nhw fwy neu lai yn sicr o gêm ail-gyfle a hynny yn dilyn eu llwyddiant nhw yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd.
Ond yr anfantais o hynny ydy y bydd hi'n llawer anoddach iddyn nhw gyrraedd Cwpan y Byd wrth iddyn nhw orfod wynebu rhai o dimau cryfaf Ewrop.
Pe bai Cymru yn gorffen yn ail yn y grŵp, fe fyddan nhw ym Mhot 1 neu Bot 2 efo rownd gyn-derfynol yn y gêm ail-gyfle yng Nghaerdydd yn erbyn tîm sydd wedi eu dethol yn is na nhw.
Os ydyn nhw yn gorffen yn drydydd, fe fydd yn rhaid i Gymru ennill oddi cartref yn erbyn un o dimau cryfaf Ewrop yn y rownd gynderfynol.