Cyhuddo dyn 35 oed o'r gogledd o sawl trosedd rhyw yn erbyn plant
Mae dyn 35 oed o'r gogledd wedi ei gyhuddo o sawl trosedd rhyw yn erbyn plant.
Fe wnaeth Daniel James Bremner o Mancot yn Sir y Fflint ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.
Mae'n wynebu pum cyhuddiad o drais, pedwar cyhuddiad o gamdriniaeth rywiol drwy gyffwrdd, dau gyhuddiad o gamdriniaeth rywiol trwy dreiddiad, dau gyhuddiad o annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, a dau gyhuddiad o achosi i blentyn wylio/gweld delwedd o weithgaredd rhywiol.
Ni wnaeth Daniel Bremner gyflwyno ple.
Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ar gyfer gwrandawiad ple ar 12 Rhagfyr.