Wyth wedi eu lladd mewn ffrwydrad yn India

ffrwydrad Delhi India.jpg

Mae wyth o bobl wedi eu lladd, ac 20 wedi eu hanafu ar ôl i gar ffrwydro yn Delhi, India. 

Digwyddodd hynny ger adeilad hanesyddol o'r 17eg ganrif sy'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.     

Yn ôl yr heddlu, ffrwydrodd y cerbyd tua 18:52 yn Delhi, wrth i'r car symud yn araf cyn dod i stop wrth olau coch.

Yn ôl adroddiadau, roedd tri o bobl yn y cerbyd.   

Mae Prif Weinidog India, Narendra Modi, wedi dweud ei fod yn cydymdeimlo â'r rhai sydd wedi "colli eu hanwyliaid. " 

Mae diogwelwch llym yn y ddinas ar hyn o bryd, ac yn ôl yr heddlu, dyw hi ddim yn glir beth yn union achosodd y ffrwydrad.    

Llun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.