Cwest yn clywed bod mam o Brestatyn wedi marw o ganlyniad i 'anaf i'w phen'
Mae cwest wedi clywed fod dynes o Brestatyn a gafodd ei lladd yn honedig gan ei mab wedi marw o ganlyniad i anaf i'w phen.
Fe gafodd corff Angela Shellis, 45 oed, ei ddarganfod ar lwybr ger gwarchodfa natur Morfa yn y dref ar 24 Hydref.
Fe gafodd ei mab, Tristan Thomas Roberts, 18 oed, ei arestio ar yr un diwrnod a'i gyhuddo o'i llofruddio.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ac mae'n parhau yn y ddalfa, gydag achos llys wedi ei osod ar gyfer mis Mawrth 2026.
Ni wnaeth Roberts, a oedd yn byw gyda'i fam ym Mhrestatyn, gyflwyno ple.
Fe gafodd adroddiad seiciatrig ei orchymyn i benderfynu os y bydd yn gallu cyflwyno ple.
Fe gafodd Ms Shellis ei geni yn Nhywyn, ac roedd yn gynorthwyydd addysgu yn Ysgol Uwchradd y Rhyl.
Mewn gwrandawiad byr yn Rhuthun ddydd Llun, dywedodd Uwch Grwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, John Gittins, mai trawma i'r pen oedd achos ei marwolaeth, yn ôl canfyddiadau cychwynnol patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers.
Fe gafodd y cwest ei ohirio.