Tri dyn yn y llys ar gyhuddiad o ladd y llofrudd Kyle Bevan
Mae tri dyn sydd wedi eu cyhuddo o ladd llofrudd o Aberystwyth yn y carchar wedi ymddangos yn y llys.
Bu farw Kyle Bevan, 33 oed, ddydd Mercher yng Ngharchar Wakefield, yn Sir Gorllewin Efrog lle'r oedd yn treulio dedfryd o garchar am oes am lofruddio Lola James, merch ddyflwydd oed ei bartner yn Hwlffordd, Sir Benfro, yn 2020.
Bu farw'r ferch fach yn yr ysbyty bedwar diwrnod ar ôl dioddef mwy na 100 o anafiadau yng nghartref y teulu.
Cafodd Bevan ddedfryd o isafswm o 28 mlynedd yn y carchar ym mis Ebrill 2023.
Ddydd Llun fe wnaeth Mark Fellows, 45 oed; Lee Newell, 56 oed; a David Taylor, 63 oed, ymddangos yn Llys y Goron Leeds drwy gyswllt fideo.
Cafodd y diffynyddion eu hebrwng i ystafell gyswllt fideo yn y carchar ar ôl ei gilydd i gael clywed gan y Barnwr Tom Bayliss KC fod dyddiad eu hachos llys wedi ei osod ar gyfer 2 Mehefin.
Fe fydd y tri yn ymddangos nesaf yn yr un llys ar 15 Rhagfyr, pan ddaw cais i bledio.
Clywodd y llys fod Fellows a Newell ar hyn o bryd yn cwblhau dedfrydau gydol oes.
Daw'r digwyddiad yng Ngharchar Wakefield lai na mis ar ôl i'r pedoffeil Ian Watkins gael ei drywanu i farwolaeth yn yr un carchar.
Clywodd cwest Watkins, cyn-ganwr gyda band Lostprophets, iddo farw ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf yn y carchar.
Mae'r carcharorion Rashid Gedel, 25 oed, a Samuel Dodsworth, 43 oed, wedi cael eu cyhuddo o'i lofruddio.
Mae dau ddyn arall o'r un carchar wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.