Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd ger Caernarfon

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd ger Caernarfon

Mae dyn 64 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Caernarfon yng Ngwynedd.

Cafodd yr heddlu eu galw i ffordd yr A487 yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng fan a cherddwr ger Bontnewydd tua 20.30 nos Sul.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle. 

Mae perthynas agosaf y dyn, a'r crwner, wedi cael gwybod.

Dywedodd y Rhingyll Katie Davies o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Rwy'n rhannu fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu'r dyn ar yr amser anodd hwn.

"Rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau camera dangosfwrdd, i gysylltu gyda'r heddlu.

"Rwyf hefyd yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A487 cyn 20.30 neithiwr a welodd ddyn yn cerdded ar hyd y ffordd osgoi i gysylltu â ni."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod C174462.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.