Abi Tierney i ddychwelyd i'w gwaith yn raddol wedi triniaeth am ganser
Bydd Abi Tierney, Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru, yn dychwelyd i'r gwaith yn raddol yr wythnos hon, ar ôl cyfnod o absenoldeb er mwyn derbyn triniaeth am ganser.
Dywedodd Cadeirydd yr Undeb, Richard Collier-Keywood, fod pawb yn y corff llywodraethu yn ddiolchgar am y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth a ddangoswyd i Abi Tierney a'r Undeb yn ystod ei habsenoldeb.
“Mae dychweliad Abi yn dod â chryfder a pharhad mewn cyfnod o newid ac rydym wrth ein bodd ei chael hi'n ôl gyda ni.
“Rwy'n siŵr y bydd pawb yn rygbi Cymru yr un mor gyffrous â'r newyddion hyn ag yr wyf fi, a byddwn yn gwybod y bydd pawb yn dymuno croeso cynnes yn ôl iddi.”
Fe gafodd Ms Tierney ei phenodi i'r rôl ym mis Awst 2023, gan olynu Nigel Walker a gymerodd yr awenau dros dro wedi i Steve Phillips ymddiswyddo.
Cyn ei phenodiad roedd Ms Tierney yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid y Swyddfa Gartref a bu'n gweithio fel Cynghorydd Moeseg yn y Swyddfa Gartref ac yn Gadeirydd eu Pwyllgor Pobl.
