Disgwyl i gadeirydd y BBC ymddiheuro ar ôl i'r cyfarwyddwr cyffredinol ymddiswyddo
Mae disgwyl i gadeirydd y BBC ymddiheuro am y modd y cafodd araith gan Donald Trump ei golygu, ar ôl i gyfarwyddwr cyffredinol a phennaeth newyddion y gorfforaeth ymddiswyddo.
Fe wnaeth y cyfarwyddwr cyffredinol, Tim Davie (uchod), a phrif weithredwr yr adran newyddion, Deborah Turness, ymddiswyddo nos Sul.
Daw hyn wedi i’r gorfforaeth gael ei chyhuddo o gamarwain y cyhoedd drwy olygu araith Arlywydd yr Unol Daleithiau yn y rhaglen ddogfen Trump: A Second Chance?
Roedd Michael Prescott, cyn-gynghorydd allanol i bwyllgor safonau golygyddol y BBC, wedi codi pryderon yn yr haf am y ffordd y cafodd clipiau o araith yr Arlywydd ar Ionawr 6, 2021, eu golygu.
Roedd yr araith yn gwneud iddo ymddangos ei fod wedi dweud wrth gefnogwyr ei fod yn mynd i gerdded i adeilad Capitol yr Unol Daleithiau gyda nhw i “ymladd fel uffern”.
Roedd Michael Prescott hefyd wedi codi pryderon ynghylch ymdriniaeth BBC Arabic o ryfel Israel-Gaza, sylw'r BBC i faterion pobl traws, a diffyg gweithredu i fynd i'r afael â'r hyn a alwodd yn "broblemau systemig" o ran gogwydd golygyddol.
Dywedodd ei neges, a oedd wedi mynd i ddwylo papur newydd y Telegraph, ei fod wedi teimlo "anobaith" ynghylch y diffyg gweithredu gan reolwyr y BBC "pan ddaw materion i'r amlwg".
Yn ei lythyr i staff y BBC ddydd Sul wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd Tim Davie fod “rhai camgymeriadau wedi’u gwneud, ac fel y cyfarwyddwr cyffredinol mae’n rhaid i mi gymryd y cyfrifoldeb yn y pen draw”.
Mae disgwyl i gadeirydd y BBC, Samir Shah, ymddiheuro ddydd Llun a darparu rhagor o fanylion wrth ymateb i’r Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a ofynnodd sut y byddai’n mynd i’r afael â’r pryderon.
Wrth gyrraedd swyddfeydd y BBC yn Llundain ddydd Llun dywedodd Deborah Turness bod ei swydd wedi bod yn "fraint".
"Fe wnes i gamu i lawr dros y penwythnos oherwydd fi sy'n gyfrifol yn y pen draw," meddai.
"Ond hoffwn wneud un peth yn glir iawn, sef nad oes gan y BBC News ogwydd sefydliadol. Dyna pam mai dyma'r darparwr newyddion mwyaf dibynadwy yn y byd."
Mae Donald Trump wedi croesawu ymddiswyddiadau Tim Davie a Deborah Turness gan honni fod y golygiadau i raglen ddogfen Panorama yn “beth ofnadwy i Ddemocratiaeth”.
‘Anhrefn’
Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Diwylliant San Steffan ddydd Llun fod y BBC wedi ymateb yn “wael” i’r argyfyngau golygyddol dros yr haf.
Yn ôl y Fonesig Caroline Dinenage: “Mae’r BBC wedi colli cyfleoedd bob tro. A dyw hynny ddim yn broblem ar lefel y bwrdd — mae’n broblem sefydliadol.”
Mewn cyfweliad fore dydd Llun, roedd cyn-olygydd The Sun, David Yelland, wedi awgrymu mai ‘coup’ oedd ymddiswyddiad Tim Davie. Ond dyw Dinenage ddim yn cytuno.
Dywedodd hi fod Tim Davie wedi ymddiswyddo oherwydd “methiannau golygyddol”, nid am fod y bwrdd wedi gofyn iddo wneud hynny.
Mae cyn-reolwr newyddion y BBC, Syr Craig Oliver, wedi dweud bod y BBC bellach “mewn anhrefn, yn ddi-gyfeiriad ac yn ddi-arweiniad”.
Dywedodd wrth raglen Today ar Radio 4 fod angen i’r cadeirydd, mewn cyfnod o argyfwng, “gamu mewn” i amddiffyn y gorfforaeth, ond nad yw Samir Shah wedi gwneud hynny “yn iawn” yn yr achos hwn.
Mae cyn-olygydd The Daily Telegraph, Charles Moore, wedi dweud y bydd yr ymddiswyddiadau’n rhoi cyfle i’r BBC “gymryd bod yn ddiduedd o ddifri”.
Dywedodd wrth Today ar Radio 4 fod yna ogwydd “i’r chwith”, ac mai hyn oedd yn amlwg yn adroddiadau BBC Arabic ar ryfel Gaza ac Israel.
Ond mae Mark Damazer, cyn-reolwr BBC Radio 4, wedi gwrthod yr honiad nad yw’r BBC yn ddiduedd. Dywedodd fod y mwyafrif o’r hyn y mae’r BBC yn ei wneud yn “wych”, a bod bod yn ddiduedd yn “ganolog” i ddiwylliant y BBC.
Llun gan PA / Andrew Milligan
