Dadorchuddio placiau i goffau Richard Burton a'i fentor
Bydd plac glas yn cael ei ddadorchuddio yng nghartref teuluol yr actor Richard Burton i nodi 100 mlynedd ers iddo gael ei eni.
Yn ogystal bydd plac glas arall yn cael ei osod yn hen gartref ei fentor, Philip Burton.
Daw hyn wrth i nifer o weithgareddau ddigwydd i nodi'r penblwydd yn ystod mis Tachwedd.
Yn eu plith mae darlith am fywyd yr actor enwog o Bontrhydyfen, darlleniadau barddoniaeth a dramâu a gala fydd yn cynnwys perfformiadau gan Michael Sheen, Jeff Wayne a Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg.
Mae disgwyl i deulu Richard Burton ac aelodau o'r gymuned leol fod yn y seremoni er mwyn dadorchuddio'r ddau blac.
Mae'r actor yn cael ei gydnabod fel un o actorion gorau ei genhedlaeth.
Cafodd ei eni yn 1925 yn Pontrhydyfen, pentref bach yn nyffryn Afan.
Glöwr oedd ei dad ac fe fuodd ei fam farw pan oedd Burton yn blentyn bach. Fe sylwodd ei athro, Philip Burton ar ei dalent drama ac fe lwyddodd i'w helpu i gael ei rôl actio gyntaf.
Yn ddiweddarach daeth yn warchodwr cyfreithiol iddo ac fe fabwysiadodd Burton ei gyfenw.
Ymhlith rhai o'r ffilmiau mawr y gwnaeth o serennu ynddyn nhw oedd Cleopatra, The Spy Who Came in from the Cold a Who’s Afraid of Virginia Woolf?. Roedd hefyd yn cael ei gydnabod am ei actio ar y llwyfan.
Mae Philip Burton yn cael ei anrhydeddu nid yn unig am ei ddylanwad ar Richard Burton ond ar berfformwyr eraill trwy ei waith fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr theatr.
Llun: Wikipedia
