Jac Morgan yn debygol o golli gweddill gemau Cyfres yr Hydref
Dyw hi ddim yn edrych yn debygol y bydd capten Cymru ar gael i chwarae gweddill gemau Cyfres yr Hydref ar ôl iddo gael anaf i'w ysgwydd.
Fe wnaeth Jac Morgan ddatgymalu ei ysgwydd yn ystod gêm Cymru yn erbyn Yr Ariannin ddydd Sul.
Colli oedd hanes Cymru o 28-52.
Yn ôl hyfforddwr Cymru, Steve Tandy dyw pethau ddim yn "argoeli'n dda i Jac".
"Mae'n ergyd drom. Mae'n chwaraewr o safon byd ac yn chwaraewr pwysig i ni. Rydyn ni yn gwybod faint mae yn caru chwarae i Gymru a'r ffordd mae'n arwain y tîm."
Ychwanegodd fod Morgan wedi ei "lorio" ond mae'r hyn oedd yn bwysig oedd ei fod yn gwella o'r anaf.
Digwyddodd yr anaf ar ôl i Jac Morgan gael cais yn ystod ail hanner y gêm.
Dywedodd Tandy y byddan nhw yn penderfynu pwy fydd yn cael eu galw i'r garfan ar ôl asesu'r sefyllfa mewn 24 awr.
Ond fe enwodd Harri Deaves a Tommy Reffell fel dau opsiwn posib.
Dyma oedd gêm gyntaf Cymru yn ystod Cyfres yr Hydref. Fe fydd y tîm cenedlaethol nawr yn chwarae Japan ar 15 Tachwedd.
Llun: Huw Evans Picture Agency
