Reidiwr beic modur wedi marw mewn gwrthdarwiad yn y Barri

Yr heddlu

Mae reidiwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn y Barri ddydd Sadwrn.

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth wedi i'r gwrthdrawiad yn ymwneud â beic modur oren KTM 390 Duke, ar Atlantic Way, am 13.45.

Mae swyddogion yn annog unrhyw un oedd yn yr ardal yn ystod adeg y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau ffôn symudol neu gamera dashfwrdd, i gysylltu gyda nhw.

Mae modd rhannu gwybodaeth gyda'r llu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2500356668.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.