Elfyn Evans yn dal ar frig Pencampwriaeth y Byd ar ôl Rali Japan
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi dal ei safle ar frig Pencampwriaeth y Byd ar ôl iddo ddod yn ail yn Rali Japan.
Roedd Evans yn 11.6 eiliad tu ôl i Sebastian Ogier o Ffrainc ar ddiwedd 20 cymal y rali, ddaeth i ben ddydd Sul.
Mae hyn yn golygu fod gan Evans fantais o dri phwynt dros Ogier ar frig y bencampwriaeth gydag un rali yn weddill o’r tymor yn Saudi Arabia rhwng 26-29 Tachwedd.
Fe ddechreuodd Evans gymalau ddydd Sul 6.5 eiliad tu ôl i Ogier gan ddod yn gyntaf ar gymal cynta’r dydd.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1987401932605116525
Ond fe gollodd Evans amser a’i rhythm pan lithrodd i lawr llethr o wair ar drydydd cymal y dydd.
Fe fydd y frwydr am y bencampwriaeth yn cael ei phenderfynu ar gymalau tywodlyd a charegog y diffeithwch o amgylch Jeddah.
Mae Ogier wedi ennill y bencampwriaeth wyth o weithiau ac mae Evans a’i gyd-yrrwr Scott Martin yn anelu am y teitl am y tro cyntaf ar ôl dod yn ail mewn pedwar tymor yn flaenorol.
Llun: X/Elfyn Evans