Cyn-gyflwynydd Top Gear, Quentin Willson, wedi marw yn 68 oed
Mae cyn-gyflwynydd Top Gear, Quentin Willson, wedi marw yn 68 oed.
Bu farw'r cyflwynydd teledu a'r newyddiadurwr moduro "yn heddychlon wedi'i amgylchynu gan ei deulu" ddydd Sadwrn, meddai datganiad gan ei deulu.
Bu farw ar ôl salwch byr, wedi iddo dderbyn diagnosis canser yr ysgyfaint.
Roedd Willson, o Gaerlŷr, yn un o'r cyflwynwyr cyntaf ar y sioe foduro boblogaidd ar y BBC, ochr yn ochr â Jeremy Clarkson, cyn iddo fynd ymlaen i gyflwyno Fifth Gear.
Dywedodd y datganiad: "Trysor cenedlaethol gwirioneddol, daeth Quentin â llawenydd moduro, o hylosgi i drydan, i'n hystafelloedd byw."
Roedd wedi creu a chyflwyno’r rhaglen Britain’s Worst Drivers a The Car’s The Star ac aeth ymlaen i berfformio ar Strictly Come Dancing yn 2004 lle mae'n parhau i ddal y sgôr isaf yn hanes y sioe.
Roedd hefyd yn ymgyrchydd dros gerbydau trydan ac wedi ymgyrchu gyda'i grwpiau FairFuel a FairCharge.
Mae'n gadael gwraig, tri o blant a thri o wyron.
Llun: quentinwilson.co.uk