Afghanistan: Y Taliban yn dechrau amlinellu eu cynlluniau

Afghanistan: Y Taliban yn dechrau amlinellu eu cynlluniau

Sky News

Mae'r Taliban wedi dechrau amlinellu eu cynlluniau ar ôl iddynt gymryd rheolaeth o Afghanistan.

Mae swyddog o'r Taliban wedi rhannu fore dydd Sadwrn sut bydd timau yn delio gyda diogelwch mewnol a'r argyfwng ariannol maent yn credu bydd yn effeithio ar y wlad.

Daw hyn wrth i'r DU barhau i gludo dinasyddion ac Afghanwyr sydd wedi gweithio gyda Phrydain o'r wlad, gydag Arlywydd UDA, Joe Biden, wedi dweud y bydd eu 'cynllun achub' yn dod i ben yno o fewn 10 diwrnod.

Yn ôl adroddiadau, mae'r "anrhefn" ym maes awyr Kabul yn parhau, gyda Sky News yn dweud eu bod wedi gweld "o leiaf" tri chorff.

Mae'r Taliban yn dweud bod Mullah Abdul Ghani Baradar, arweinydd gwleidyddol y Taliban, yn Kabul ar gyfer cyfarfodydd, a'i fod am rannu cyfrifoldebau i swyddogion a chwrdd â chyn arweinwyr, comandwyr milwrol lleol, llunwyr polisi ac ysgolheigion crefyddol dros y dyddiau nesaf.

Darllenwch y stori'n llawn yma.