'Cyfle euraidd' i Gymru yn erbyn yr Ariannin

'Cyfle euraidd' i Gymru yn erbyn yr Ariannin

Mae gan Gymru "gyfle euraidd" i gychwyn Gemau'r Hydref gyda buddugoliaeth yn erbyn yr Ariannin.

Dyna farn y gohebydd rygbi Lauren Salter wrth i Steve Tandy arwain ei gêm gyntaf fel prif hyfforddwr y tîm cenedlaethol.

Dyw'r gwledydd heb gwrdd ers i'r Ariannin ennill yn erbyn Cymru yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc yn 2023.

29-17 oedd y canlyniad adeg hynny, ond dim ond ar dri achlysur mae Los Pumas wedi ennill ar gae'r Stadiwm Principality.

2021 oedd y tro diwethaf, ond gydag anafiadau yng ngharfan yr Ariannin mae gan Gymru "cyfle euraidd" i ennill ddydd Sul.

“Ma' angen bod yn ddyfeisgar, ma’ angen ffeindio ffyrdd eraill, yn enwedig yn y ddwy ar hugain, o groesi’r llinell fantais," meddai Lauren Salter.

“Yn rhy aml ni ‘di gweld chwaraewyr yn trial mynd ben-ben gyda chwaraewyr mwyaf corfforol y byd a dyw hynny ddim yn gweithio i Gymru.

“Mae'r Ariannin yn colli ambell i chwaraewr dylanwadol iawn, eu dewis cyntaf yn y crys rhif 10, eu dewis cyntaf yn y crys rhif 9 a 13.

“Felly mae’n gyfle euraidd.”

'Deinameg'

Bydd Jac Morgan, capten Cymru, yn dechrau fel blaenasgellwr ochr agored ddydd Sul, a Tomos Williams yn dechrau’n safle’r mewnwr – eu gemau cyntaf i Gymru ers Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025, wedi iddyn nhw gael eu dewis ar gyfer y Llewod dros yr haf.

Mae Dafydd Jenkins ac Adam Beard yn dychwelyd i dîm Cymru yn yr ail reng. Dyma ymddangosiad cyntaf Jenkins ers y Chwe Gwlad hefyd, tra bydd Beard yn chwarae i Gymru am y tro cyntaf eleni.

Mae Alex Mann wedi’i ddewis yn safle’r blaenasgellwr ochr dywyll, ac Aaron Wainwright fydd yn cwblhau’r drindod yn y rheng ôl fel wythwr.

Mae Rhys Carré wedi’i enwi’n brop pen rhydd, a dyma fydd ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ers 2023. 

Credai Lauren Salter y gallai Cymru cael y gorau allan ohono yn y pedair gêm dros y mis nesaf.

“Rhys Carre, nôl am y tro cyntaf mewn dwy flynedd i Gymru," meddai.

“Mae gan bob tîm rhyngwladol chwaraewr fel Rhys Carre, prop deinameg sy’n gallu cario.

"Felly fi'n disgwyl gweld Cymru yn cael y gorau ohono fe eleni."

Rees-Zammit ar y fainc

Mae asgellwr Cymru Louis Rees-Zammit wedi dychwelyd i garfan Cymru am y tro cyntaf ers dychwelyd i rygbi'r undeb ar ôl treulio 18 mis yn yr NFL yn UDA.

Nid oedd Rees-Zammit wedi chwarae rygbi ers gêm Cwpan Her Ewrop ar 13 Ionawr 2024, cyn gadael y gamp i ddilyn gyrfa mewn pêl-droed Americanaidd.

Arwyddodd i Bristol Bears ar ddechrau'r tymor.

Un gêm lawn yn unig mae'r Cymro wedi chwarae y tymor yma, ond fe fydd yn opsiwn da y gallai effeithio'r gêm oddi ar y fainc.

“Louis Rees- Zammit ar y fainc, rhai yn gobeithio gweld e’n dechrau o ystyried bod ei dalent a’i gyflymder yn unigryw iawn," meddai Lauren Salter.

“Ond dim ond pedair gê ma’ fe wedi chwarae ac unwaith ma’ fe ‘di chwarae 80 munud i Fryste.

“Mae’n dipyn o chwaraewr i ddod oddi ar y fainc yn yr ail hanner."

Los Pumas fydd yr ornest gyntaf o bedwar yng Nghaerdydd fis Tachwedd.

Fe fydd Cymru’n chwarae yn erbyn Japan ar 15 Tachwedd, lai na phedwar mis ers y ddwy gêm brawf yn Japan dros yr haf. 

Daeth y gyfres honno i ben gydag un fuddugoliaeth yr un i’r ddwy wlad, gyda Chymru’n ennill yr ail brawf yn Kobe. 

Bydd Cymru wedyn yn herio Seland Newydd ar 22 Tachwedd cyn y gêm olaf yn erbyn Pencampwyr y Byd, De Affrica, ar ddydd Sadwrn 29 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.