Arestio tri ar ôl i’r heddlu ddilyn car drwy Sir Ddinbych
Mae'r heddlu wedi arestio tri ar ôl dilyn car oedd yn cael ei amau o gael ei ddefnyddio i gyflawni trosedd yn Sir Ddinbych.
Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd ddilyn car Vauxhall arian am drwy Ddinbych, Rhuthun a Phwll-glas ar ôl iddo fethu â stopio.
Erbyn cyrraedd Pwll-glas roedd y gyrrwr a'r ddau deithiwr wedi gadael y car a rhedeg i ffwrdd.
Yn dilyn ymgyrch fawr, a oedd yn cynnwys yr heddlu awyr, daeth swyddogion o hyd i'r tri yn cuddio mewn ysgubor.
Cafodd y tri eu harestio'n ddiweddarach ac maen nhw'n cael eu cadw yn y ddalfa.
"Hoffwn ddiolch i aelodau'r cyhoedd a gynorthwyodd ddoe," meddai'r heddlu.
"Ni fyddwn yn goddef gyrru peryglus ar ein ffyrdd a byddwn yn parhau i wneud ein ffyrdd yn ddiogel."