Rygbi: Steve Tandy yn cyhoeddi tîm Cymru i herio'r Ariannin
Mae’r prif hyfforddwr Steve Tandy wedi enwi tîm Cymru i chwarae yn erbyn Ariannin ddydd Sul yn eu gêm gyntaf yng Nghyfres Hydref Quilter eleni, yn Stadiwm Principality.
Bydd Jac Morgan, capten Cymru, yn dechrau fel blaenasgellwr ochr agored, a Tomos Williams yn dechrau’n safle’r mewnwr – eu gemau cyntaf i Gymru ers Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025, wedi iddyn nhw gael eu dewis ar gyfer y Llewod dros yr haf.
Mae Dafydd Jenkins ac Adam Beard yn dychwelyd i dîm Cymru yn yr ail reng. Dyma ymddangosiad cyntaf Jenkins ers y Chwe Gwlad hefyd, tra bydd Beard yn chwarae i Gymru am y tro cyntaf eleni.
Mae Alex Mann wedi’i ddewis yn safle’r blaenasgellwr ochr dywyll, ac Aaron Wainwright fydd yn cwblhau’r drindod yn y rheng ôl fel wythwr.
Mae Rhys Carré wedi’i enwi’n brop pen rhydd, a dyma fydd ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ers 2023. Bydd y bachwr Dewi Lake a’r prop pen tynn Keiron Assiratti yn cadw cwmni iddo’n y rheng flaen.
Bydd Dan Edwards yn safle’r maswr – yr eildro iddo ddechrau gêm dros Gymru. Ben Thomas a Max Llewellyn fydd yn ffurfio’r bartneriaeth yng nghanol cae i Gymru.
Josh Adams a Tom Rogers sydd wedi eu dewis ar yr esgyll, gyda’r cefnwr Blair Murray yn cwblhau’r pymtheg cychwynnol.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1986724070575227333
Ymhlith yr eilyddion i Gymru, bydd y blaenasgellwr Olly Cracknell yn gobeithio camu o’r fainc i ennill ei gap cyntaf, tra bydd Louis Rees-Zammit yn gwisgo crys Cymru am y tro cyntaf ers Rownd Wyth Olaf Cwpan y Byd yn 2023 yn erbyn yr Ariannin, os y caiff ei alw i’r maes gan Steve Tandy.
Bydd Liam Belcher, enillodd ei ddau gap dros Gymru hyd yn hyn yn Japan dros yr haf, yn eilydd o fachwr tra mai Nicky Smith ac Archie Griffin fydd yr opsiynau wrth gefn fel propiau. Freddie Thomas yw’r unig flaenwr arall ar y fainc.
Bydd Kieran Hardy ar gael i’w alw i’r maes fel mewnwr, a Jarrod Evans yw’r opsiwn arall ar gael i Steve Tandy fel maswr.
Dywedodd Steve Tandy: “Mae’n fraint enfawr cyhoeddi fy nhîm cyntaf o 23 o chwaraewyr i gynrychioli Gymru. Dwi eisiau gweld pob aelod o’r garfan yn camu i’r maes ddydd Sul, mynegi eu hunain ar y cae gan fwynhau pob eiliad o gynrychioli eu gwlad gyda chrys mor arbennig ac unigryw ar eu cefnau.”
Ychwanegodd Tandy wrth gyfeirio at Olly Cracknell: “Mae Olly wedi gwneud argraff sylweddol arnaf ers iddo ymuno â’r garfan, a dwi’n ei adnabod ers blynyddoedd. Cefais y fraint o’i hyfforddi yn ystod fy amser gyda’r Gweilch.
"Mae’n broffesiynol iawn o safbwynt ei agwedd. Mae’n unigolyn penderfynol iawn ac mae wedi profi hynny dros y blynyddoedd gyda’r Gwyddelod yn Llundain ac mae’n arddangos yr un rhinweddau gyda Chaerlŷr erbyn hyn. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn trosglwyddo ei ddoniau amlwg i’r llwyfan rhyngwladol.”
Cafodd Tandy ei benodi yn brif hyfforddwr ar dîm rygbi dynion Cymru ym mis Gorffennaf eleni, ar ôl treulio chwe blynedd fel rheolwr amddiffyn Yr Alban.
Roedd hefyd yn hyfforddwr amddiffyn ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica yn 2021.
Cyn ei gyfnod yn Yr Alban, roedd yn brif hyfforddwr gyda'r Gweilch am chwe blynedd rhwng 2012 a 2018, gan ennill y Pro 12 yn ei dymor cyntaf wrth y llyw.
Yn ystod ei yrfa fel chwaraewr, fe chwaraeodd Tandy i'r Gweilch ac i Gastell-nedd.
Fe wnaeth Tandy, sy’n wreiddiol o bentref Tonmawr, ger Castell-nedd, olynu Warren Gatland, a wnaeth adael y swydd yng nghanol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Fe aeth hyfforddwr Caerdydd, Matt Sherratt, ymlaen i gymryd yr awenau am dair gêm yn y bencampwriaeth, yn ogystal â thaith Cymru i Japan ym mis Gorffennaf, lle enillodd y tîm am y tro cyntaf ers Hydref 2023.
Llun: URC/Huw Evans