Taith newydd Lily Allen yn ymweld â Chaerdydd
Mae'r gantores Lily Allen wedi cyhoeddi y bydd hi'n ymweld â Chaerdydd fel rhan o daith lle bydd yn perfformio ei halbwm newydd yn ei gyfanrwydd ym mis Mawrth 2026.
Mae'r albwm West End Girl eisoes wedi dod yn un o gasgliadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn ers ei ryddhau ddydd Gwener ddiwethaf.
Mae themau'r albwm yn ymwneud â rhai o'r digwyddiadau a arweiniodd at ddiwedd ei phriodas â'r actor o America, David Harbour, sy'n adnabyddus am ei ran yn y gyfres deledu Stranger Things.
Fe fydd y daith yn ymweld â Glasgow, Lerpwl, Birmingham, Sheffield, Newcastle, Manceinion, Nottingham, Caergrawnt, Bryste a Chaerdydd, cyn gorffen yn y Palladium yn Llundain.
Y tro diwethaf i Allen deithio oedd rhwng 2018 a 2019, yn dilyn rhyddhau ei phedwerydd albwm stiwdio No Shame.
Dim ond ymddangosiadau byw achlysurol y mae hi wedi'u gwneud ers hynny, sy'n cynnwys ymddangosiadau yng ngwŷl Glastonbury.
(Prif lun: PA)