Rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd wedi codi i lefelau na welwyd o'r blaen

NS4C

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £411m ar gyfer costau'r Gwasanaeth Iechyd wrth i restrau aros godi i lefelau na welwyd erioed o'r blaen.

Roedd cynnydd o 33% mewn rhestrau aros ar draws y GIG yn y flwyddyn ddiwethaf, tra bod amseroedd amser gwasanaethau iechyd meddwl wedi dyblu. 

£411m sy'n cael ei roi ar gyfer costau parhaus y pandemig hyd at fis Ebrill 2022, gyda £140m ar gyfer adferiad a mynd i'r afael ag amseroedd aros.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi beirniadu'r llywodraeth am beidio â mynd i'r afael ag amseroedd aros, sydd wedi bod yn broblem i'r GIG ers cyn y pandemig.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fod y Gwasanaeth Iechyd yn parhau i wynebu "costau sylweddol" yn sgil y pandemig. 

"Rwy’n falch o gadarnhau £411m ychwanegol ar gyfer y costau hyn, gan gynnwys y rhaglen frechu, profi, cyfarpar diogelu personol, a safonau glanhau newydd ar gyfer rheoli haint," eglurodd. 

"Mae sgil-effaith delio â’r pandemig hefyd wedi bod yn enfawr.

'Creu system iechyd a gofal cymdeithasol gynaliadwy'

"Mae rhestrau aros wedi cynyddu dros 33% ac maen nhw nawr ar lefelau na welwyd o’r blaen. Bydd yn cymryd amser i ddychwelyd i ble roedden ni cyn y pandemig a bydd angen buddsoddi mewn ffyrdd newydd o weithio. Felly, rydym hefyd yn darparu £140m ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd ar gyfer y gwaith hwn.

"Bydd £100m yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynlluniau adfer byrddau iechyd, gan gynnwys cyflymu triniaeth y rhai sydd wedi bod yn aros yr amser hiraf. Bydd £40m ar gael ar gyfer cyfarpar ac addasu ysbytai ac adeiladau eraill i gynyddu capasiti ar gyfer triniaethau rheolaidd, tra’n parhau i gynnal mannau diogel o ran Covid-19.

"Rwy’n cydnabod ei bod yn dasg enfawr i hyd yn oed fynd yn ôl i ble roedden ni cyn y pandemig. Fodd bynnag, rhaid inni hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a chreu system iechyd a gofal cymdeithasol gynaliadwy sy’n gallu ateb galwadau’r dyfodol."

Wrth groesawu'r cyllid, dywedodd Russell George A.S., llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd, ei bod hi'n "hen bryd" i'r llywodraeth weithredu.  

"Rhaid peidio anghofio bod y rhestrau aros hir iawn yma wedi bod yn cronni ers cyn y pandemig, ac mae methiant Llafur i drwsio'r to pan oedd yr haul yn tywynnu wedi arwain at gannoedd o filoedd o gleifion yn talu'r pris.

"Rhaid dechrau hyn gyda chynyddu capasiti, gan ddechrau gyda llenwi 3,000 o swyddi GIG sy'n wag ac arbed cannoedd o filiynau o bunnoedd sy'n cael ei wario'n flynyddol ar staff dros dro."

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth A.S., llefarydd iechyd Plaid Cymru fod "diffyg buddsoddiad gan sawl llywodraeth Lafur cyn y pandemig wedi arwain at orddibyniaeth ar ewyllys da ac ymroddiad staff iechyd a gofal."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi galw am gynyddu recriwtio a hyfforddi o fewn y GIG.